Fydd dim newid i wyliau ysgol yng Nghymru yn ystod y tymor Seneddol hwn, medd Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried cwtogi gwyliau haf ysgolion i bum wythnos, yn lle’r chwe wythnos arferol, ac ychwanegu wythnos at wyliau’r hydref.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad na fydd unrhyw newidiadau i’r flwyddyn ysgol yn digwydd yn ystod tymor presennol y Senedd, dywed Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, eu bod yn croesawu’r newyddion.
“Ni ellir gwneud newidiadau o’r maint hwn heb feddwl ac mae angen cael tystiolaeth gref iawn i ddangos y byddai newid o’r fath o fudd i ddisgyblion, ond nid oedd tystiolaeth o’r fath yn bodoli,” meddai.
“Ni ddylai hyn fod wedi bod yn flaenoriaeth, yn enwedig yng nghanol diwygiadau eraill i’r cwricwlwm a’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Amgen (ADY).”
Ymateb cymysg
Daw’r penderfyniad yn dilyn ymateb cymysg i ymgynghoriad ddenodd ymhell dros 16,000 o ymatebion.
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn pobol ar newid calendr yr ysgol i ledaenu’r gwyliau ysgol yn fwy cyfartal drwy gydol y flwyddyn.
Roedd y cynigion yn awgrymu symud wythnos o ddechrau gwyliau’r haf i wyliau’r hydref, gan greu pythefnos o wyliau hanner tymor i wella profiadau addysg pobol ifanc, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, ac i fod yn fwy cyson â’r ffordd mae teuluoedd yn byw ac yn gweithio.
Er bod mwyafrif bach iawn o’r ymatebion o blaid newid y gwyliau ysgol, roedd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn amwys ac yn gwrth-ddweud eu hunain, medd Llywodraeth Cymru.
Yn sgil hynny, bydd oedi er mwyn rhoi mwy o amser i drafod.
“Rwyf bob amser yn dechrau drwy edrych ar les plant a phobol ifanc,” meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru.
“Mae hynny’n golygu sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau wedi’u cynllunio’n briodol a’u bod yn cael y cyfle a’r amser i lwyddo.
“Roedd amrywiaeth barn sylweddol ar y mater hwn.
“Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni barhau i drafod a gwrando ar ysgolion, athrawon ac undebau yn ogystal â phlant, pobl ifanc a rhieni ar y ffordd orau o weithredu unrhyw newidiadau yn y dyfodol.
“Rwy’n ymwybodol iawn ein bod yn gofyn llawer gan athrawon ac ysgolion.
“Maen nhw’n cefnogi ein huchelgais i drawsnewid addysg yng Nghymru ac mae angen amser a chyfle arnyn nhw i sicrhau bod y diwygiadau hyn yn cyflawni ar gyfer plant a phobol ifanc.”
Ychwanega ei bod hi am roi blaenoriaeth i ddiwygiadau sydd eisoes ar y gweill ac ar wella cyrhaeddiad ysgolion.
‘Digon dewr’
Dywed Laura Doel o NAHT Cymru eu bod nhw’n anghytuno â chanfyddiad Llywodraeth Cymru fod yr ymatebion yn rhai cymysg, ond eu bod nhw’n falch bod y proffesiwn wedi cael sicrwydd na fydd unrhyw newidiadau yn ystod y tymor Seneddol hwn.
“Rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am fod yn ddigon dewr i roi llawer mwy o faterion dybryd ar frig ei hagenda yn hytrach na bwrw ymlaen â diwygiad na fyddai wedi bod o fudd i ddysgwyr.”