Mae Llafur gryn dipyn ar y blaen i’r Ceidwadwyr yng Nghymru wrth i’r ymgyrchu at yr Etholiad Cyffredinol barhau.
Mae arolwg barn Barn Cymru yn dangos y byddai 45% o bobol Cymru’n pleidleisio dros Lafur, tra byddai 18% yn rhoi pleidlais i’r Ceidwadwyr.
Yn ôl yr arolwg, gafodd ei wneud gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, byddai mwy o bobol yn pleidleisio dros Reform na Phlaid Cymru.
Mae dros chwarter y rhai bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr yn Etholiad Cyffredinol 2019 yn cefnogi Reform UK y tro hwn.
Fodd bynnag, mae traean o’r rhai roddodd eu pleidlais i Blaid Cymru yn 2019 yn dweud y byddan nhw’n cefnogi Llafur y tro hwn.
Bwriad pleidleisio San Steffan
Llafur – 45% (+3)
Ceidwadwyr – 18% (-2)
Reform UK – 13% (+1)
Plaid Cymru – 12% (-3)
Democratiaid Rhyddfrydol – 5% (-2)
Gwyrdd – 4% (+1)
Arall – 1%
Dywedodd 57% o’r 1,066 a’u holwyd rhwng Mai 30 a Mehefin 3 eu bod nhw’n credu bod Vaughan Gething yn perfformio’n wael fel Prif Weinidog. 15% ddywedodd ei fod yn perfformio’n dda.
‘Newid tactegol’
Yn ôl Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, mae’r ystadegau hyn yn gyson â thueddiadau ar draws y Deyrnas Unedig “ac yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol bod Llafur yn anelu am fuddugoliaeth ysgubol, tra bod y Ceidwadwyr yn brwydro i osgoi colled hanesyddol a cholli holl gynrychiolaeth San Steffan yng Nghymru”.
“Dyma gwymp llwyr y glymblaid etholiadol Geidwadol yng Nghymru, gyda’u pleidlais yn haneru o 36% yn 2019 i ddim ond 18% yn y pôl hwn,” meddai.
Ar hyn o bryd, mae gan y Ceidwadwyr 13 Aelod Seneddol yn San Steffan.
“Fel y mae ar hyn o bryd, mae’r siawns o ddychwelyd i’r cyfnod 1997-2005 o ddim Aelodau Seneddol Ceidwadol yng Nghymru fwy neu lai yn 50/50.
“Mae’r stori i Blaid Cymru yn un gyfarwydd iddyn nhw yn etholiadau San Steffan, gyda phleidleiswyr yn newid mewn niferoedd mawr i’r Blaid Lafur.
“Mae rhywfaint o dystiolaeth bod y newid hwn yn un tactegol fodd bynnag, gyda’u bwriad i bleidleisio yn y Senedd yn dangos bod y pleidleiswyr hyn yn cael eu trosglwyddo yn ôl i gorlan Plaid Cymru.”
‘Tiriogaeth anodd i’r Ceidwadwyr’
Ychwanega Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, fod Llafur dal i “fwynhau perfformiad cryf” yng Nghymru, yn ôl yr arolwg.
“Bydd yn hwb i’w groesawu i blaid sydd wedi’u heffeithio gan ddadlau ynghylch dewis ymgeiswyr a beirniadaeth o arweinydd Llafur Cymru.
“Mae’r arolwg barn yn dangos bod y Ceidwadwyr yng Nghymru yn parhau mewn tiriogaeth anodd, gyda nifer o’u cefnogwyr blaenorol yn dewis cefnogi Reform UK.
“Gyda chefnogaeth i Blaid Cymru yn llithro islaw i Reform UK, bydd hon yn duedd ddiddorol i gadw llygad arni wrth i’r ymgyrch fynd yn ei blaen.”