Mae cyfraniad Rob Burrow at godi ymwybyddiaeth am Glefyd Motor Niwron (MND) yn “amhrisiadwy”, medd gwraig dyn sydd â’r clefyd.

Bu farw cyn-chwaraewr rygbi’r Leeds Rhinos ddoe (dydd Sul, Mehefin 2), ar ôl cael diagnosis o MND yn 2019.

Ers hynny, mae Rob Burrow, ar y cyd â’i ffrind a chyn-chwaraewr Kevin Sinfield, wedi codi dros £15m i elusennau mewn pum mlynedd.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu canolfan driniaeth MND Rob Burrow, sydd werth £6.8bn, yn Leeds heddiw.

‘Amhrisiadwy’

Dywed Lowri Davies o Sir Gaerfyrddin fod eu teulu nhw’n bersonol yn “ddiolchgar iawn” am yr hyn wnaeth Rob Burrow i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd.

Cafodd ei gŵr, Bob Gledhill, wybod fod ganddo MND ym mis Medi 2020, yn 52 oed.

“Mae’n amhrisiadwy beth wnaeth e a’i gyfaill Kevin Sinfield, ynghyd â Doddie Weir hefyd,” meddai Lowri Davies wrth golwg360.

“Mae’n anodd disgrifio’r diffyg diddordeb oedd yna, a’r diffyg ymwybyddiaeth, yng Nghlefyd Motor Niwron nes bod Doddie a Rob yn llygaid y cyhoedd.”

Mae MND yn effeithio ar y nerfau yn yr ymennydd ac yn llinyn y cefn, sy’n dweud wrth y corff beth i’w wneud.

“Yn aml, mae pobol yn sôn am Motor Niwron fel ‘the voiceless disease’, achos mae pobol sy’n dioddef o’r clefyd yn aml yn colli’r gallu i siarad, ond os ydych chi’n edrych ar y sefyllfa, cyn y gwaith wnaeth y Doddie Foundation a Rob, doedd dim wedi newid yn nhermau ymchwil i motor niwron, cyffuriau newydd am ryw 30 o flynyddoedd.

“Wedyn, daeth Rob, ac yn sgil bod e’n fodlon trafod yr anhwylder, cael diddordeb y cyhoedd ac wedyn i godi arian, mae e wedi trawsnewid y clefyd.”

Lowri Davies, Bob Gledhill a’u mab, Will

Pan gafodd Bob Gledhill ddiagnosis bedair blynedd yn ôl, doedd dim modd cymryd rhan mewn ymchwil yng Nghymru, a doedd dim treialon na chyffuriau newydd.

“Roedd Rob yn gwybod bod yr ymdrech roedd e’n rhoi mewn ddim yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth iddo fe na’i deulu fe, ond roedd e’n gwybod bod rhaid iddo fe wneud rhywbeth am y dyfodol.

“Mae e’n glefyd ofnadwy, ac mae Rob yn cael ei ddisgrifio fel ‘MND Warrior’. Y gair ‘warrior’, rydych chi yn gorfod ymladd bob dydd, ymladd i godi, mae popeth rydych chi’n ei wneud yn ymdrech.

“Os ydych chi’n meddwl am wneud hynny yn llygaid y cyhoedd, mae e hyd yn oed yn fwy anodd.

“Ond os ydych chi’n gwybod eich bod chi’n gwneud gwahaniaeth i bobol eraill, dw i’n credu bod hynny’n un o’r pethau sy’n cadw chi fynd ac efallai’n helpu chi i godi bob dydd.”

‘Ymchwil, ymchwil, ymchwil’

Ychwanega ei bod hi’n gobeithio y bydd gwaith da Rob Burrow yn parhau, gan ddweud bod rhaid i’r gymuned MND barhau i roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu’r £50m maen nhw wedi’i addo ar gyfer ymchwil i’r clefyd.

Yn 2021, fe wnaeth y llywodraeth addo gwario £50m ar ymchwil MND dros y bum mlynedd nesaf.

“Arian ar gyfer ymchwil sy’n mynd i wneud y mwyaf o wahaniaeth i bobol maes o law,” meddai Lowri Davies.

“Beth sy’n bwysig yw bod pobol sy’n cael diagnosis mewn deng mlynedd… ein bod ni’n gallu gwneud rhywbeth i alluogi nhw i gael bywyd normal am lot mwy o amser ac ymchwil, ymchwil, ymchwil yw’r unig ateb i hynny,” meddai Lowri Davies.

“Mae’n rhaid cael cyffuriau newydd ar y farchnad, mae’n rhaid cael ffordd o wneud testio geneteg i wybod a oes risg o gael MND, os oes risg a oes yna fodd defnyddio cyffuriau’n gynt?

“Rydyn ni’n cydymdeimlo’n ddwys efo’i deulu fe, ac rydyn ni’n bersonol yn ddiolchgar iawn am beth mae Rob wedi’i wneud i godi ymwybyddiaeth,” atega.

“Gobeithio y bydd y gwaith da yn cadw ymlaen, yr un peth ag sydd wedi digwydd ar ôl dyddiau Doddie Weir – mae’r Doddie Foundation dal i fynd ac mae eu gwaith da nhw’n dal i fynd.

“Bydd y ganolfan yn Leeds yn help mawr i bawb sydd gan MND, a gobeithio y bydd cyfle i gleifion o Gymru fynd yno hefyd os ydyn nhw’n dymuno.”