Mae pôl piniwn newydd yn dangos bod pob etholaeth seneddol yng Nghymru yn cefnogi rhoi’r gorau yn raddol i werthu tybaco.

Mae elusen ASH Cymru wedi cyhoeddi dadansoddiad MRP (modelu aml-lefel ac ôl-haenu) gan YouGov, sy’n dangos cefnogaeth fwyafrifol i roi terfyn yn raddol ar werthu tybaco ymhlith oedolion ym mhob etholaeth yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Roedd cyfartaledd o 69% yn cefnogi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r gefnogaeth yn amrywio rhwng 57% a 74% ar gyfer etholaethau unigol.

Cafodd y dadansoddiad ei gynnal gan ddefnyddio arolwg cenedlaethol o fwy na 13,000 o ymatebwyr dros y Deyrnas Unedig, ac fe gafodd ei gomisiynu gan elusen ASH a’i ariannu gan Cancer Research UK.

67% yn gefnogol yn Nwyfor Meirionnydd

Fe wnaeth y dadansoddiad ganfod, yn seiliedig ar yr etholaethau yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod. fod lefelau cefnogaeth yn amrywio rhwng 57% a 74%, sy’n dangos i ba raddau mae’r polisi hwn yn torri ar draws llinellau gwleidyddol a chymdeithasol.

Cafwyd hyd i’r lefel uchaf o gefnogaeth, 74%, yn etholaeth Syr Keir Starmer, sef Holborn a St Pancras.

Dangosodd etholaethau arweinwyr pleidiau eraill gefnogaeth gref hefyd, gyda 72% o etholwyr Rishi Sunak yn Richmond a Northallerton yn cefnogi’r polisi a 71%, o etholwyr yn etholaeth Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, sef Kingston a Surbiton.

Mae’r tri arweinydd wedi cefnogi’r ddeddfwriaeth.

Yn Nwyfor Meirionnydd, etholaeth Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae 67% yn gefnogol – yr un ganran ag etholaeth Stephen Flynn, arweinydd yr SNP yn San Steffan, sef De Aberdeen.

‘Rhaid i’r llywodraeth wrando’

“Mae codi oedran gwerthu cynhyrchion tybaco yn ddeddfwriaeth hanfodol ar gyfer dyfodol ein plant, gan y bydd yn eu hamddiffyn rhag fêpio yn ogystal ag ysmygu,” meddai Suzanne Cass, prif weithredwr ASH Cymru.

“Rhaid i’r llywodraeth sy’n dod i mewn, pwy bynnag ydyn nhw, wrando ar etholwyr ac ymrwymo i’w rhoi yn ôl fel blaenoriaeth pan fyddan nhw yn cyhoeddi eu rhaglen ddeddfwriaethol yn araith y Brenin.”