Mae’r gantores Georgia Ruth wedi cyhoeddi na fydd hi’n chwarae yng Ngŵyl Latitude, gan eu bod nhw’n cael eu noddi gan fanc Barclays, sy’n buddsoddi mewn cwmnïau sy’n rhoi arfau i Israel.

Bydd yr ŵyl gerddorol yn cael ei chynnal yn Suffolk fis nesaf, ac mae’r gantores bop CMAT wedi tynnu’n ôl hefyd.

Yn ôl y Palestine Solidarity Campaign, Campaign Against Arms Trade a War on Want, mae Barclays yn buddsoddi dros £2bn mewn naw cwmni sy’n creu arfau, rhannau a thechnoleg filwrol sy’n cael eu defnyddio yn ymosodiadau Israel ar Balesteina, ac yn rhoi benthyciadau ac yswiriant gwerth £6.1bn iddyn nhw.

‘Rhaid herio’

Mae Georgia Ruth yn galw ar yr ŵyl i dorri cysylltiad â Barclays.

“Rhaid herio buddsoddiad ymroddedig Barclays mewn masnach arfau Israelaidd, sy’n parhau i gynnal hil-laddiad torcalonnus ym Mhalesteinia,” meddai’r gantores mewn datganiad.

“Cefais fy ysbrydoli gan y boicot effeithiol gan awduron yn erbyn Gŵyl y Gelli, wnaeth arwain at ollwng Baillie Gifford fel prif noddwr.

“Gallwn wneud gwahaniaeth; gall gwyliau wneud newid ystyrlon.

“Dw i’n annog Latitude i dorri’u cysylltiadau ariannol â Barclaycard.”

Fe wnaeth y gantores Charlotte Church, y comedïwr Nish Kumar, yr Aelod Seneddol Llafur Dawn Butler, a’r awdur ar economeg Grace Blakeley wrthod siarad yng Ngŵyl y Gelli yr wythnos ddiwethaf, gan mai’r cwmni Baillie Gifford oedd un o’r prif noddwyr.

Mae’r grŵp ymgyrchu Fossil Free Books yn dweud bod y cwmni’n buddsoddi mewn cwmnïau sy’n “gysylltiedig â byddin Israel”, ynghyd â nifer o gwmnïau tanwydd ffosil.

Fodd bynnag, mae Baillie Gifford yn dweud bod yr “awgrym bod Baillie Gifford yn fuddsoddwr mawr yn Gaza a’r Lan Orllewinol yn gamarweiniol iawn”.

Dywed y cwmni eu bod nhw’n fuddsoddwyr mawr mewn nifer o gwmnïau technoleg fel Amazon, NVIDIA a Meta, sydd â “busnes masnachol gyda gwladwriaeth Israel, sy’n fach iawn yng nghyd-destun eu holl fusnes”.