Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Megan Angharad Hunter, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Plant a Phobol Ifanc gydag Astronot yn yr Atig.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y gyfrol os gwelwch yn dda…

Mae Astronot yn yr Atig yn llyfr i blant rhwng tua wyth a deuddeg oed am ferch ym mlwyddyn 6 o’r enw Rosie Alaw sydd yn niwrowhanol ac wrth ei bodd efo’r gofod. Un diwrnod, wrth gerdded adref o’r ysgol, mae hi’n dod ar draws llong ofod ac astronot sydd wedi crasho ar y llwybr o’i blaen. Mae hi’n dysgu fod yr astronot a’i chath robot sy’n gallu siarad, Ffred, o’r dyfodol ac angen help Rosie i achub y dyfodol rhag y Cysgodfilod. Felly, mae Rosie’n mynd ar antur ar draws gofod ac amser er mwyn trio achub y dyfodol.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Y teitl a ddaeth i mi’n gyntaf, ac felly es ati i sgwennu stori oedd yn gweddu’r teitl. Ond mi oeddwn i hefyd isio sgwennu llyfr a fysa wedi bod yn gysur i mi pan oeddwn i tua’r un oed â Rosie, gan obeithio y bydd yn gysur i blant eraill sydd ar y cyrion mewn unrhyw ffordd.

Oes yna neges y llyfr?

Mae gan bob plentyn yr hawl i deimlo fel eu bod nhw’n perthyn ymysg eu cyfoedion, dim ots be mae pobol yn ei ddweud.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

O ran Astronot yn yr Atig, Wonder gan RJ Palacio, llyfrau Michael Morpurgo a Trwy’r Darlun gan Manon Steffan Ros.

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2024

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 14!