Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Hywel Griffiths, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Barddoniaeth gyda Y Traeth o Dan y Stryd.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y gyfrol os gwelwch yn dda…
Cyfrol o gerddi a ysgrifennwyd ers inni symud fel teulu i Lanbadarn Fawr, ac o fewn pellter cerdded i arfordir Aberystwyth yw Y Traeth o Dan y Stryd. Mae cerddi ar amrywiaeth o themâu ynddi, ond mae llawer o’r cerddi yn ymdrin â threigl amser, a beth sy’n digwydd i ddelfrydiaeth ifanc wrth i’r blynyddoedd wibio heibio. Wrth imi fagu plant fy hun, rwy wedi myfyrio tipyn ar fy magwraeth fy hun, a’r fro lle magwyd fi. Mae nifer o gerddi’r gyfrol yn edrych ar y fro honno o bell. Mae blas daearyddol ar gerddi eraill hefyd – mae lleoedd, tirluniau a theithio wedi bod yn ysbrydoliaeth gyson. Mae cerddi cyfarch o wahanol fathau ynddi hefyd.
Cyfrol sy’n casglu cynnyrch rhyw chwe blynedd yw hi, ond wrth imi gasglu’r deunydd ynghyd sylweddolais fod rhyw fath o linyn yn cysylltu nifer o’r cerddi, sef treigl amser ac effaith hynny ar berson. Roedd fy mhen-blwydd yn ddeugain ym mis Mawrth 2023, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad da cyhoeddi’r gyfrol i gyd-fynd â’r garreg filltir!
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?
Mae’r teitl yn gyfieithiad o graffiti Ffrangeg a baentiwyd ym Mharis yn ystod protestiadau 1968, ac sy’n cael ei gysylltu gyda grŵp o’r enw’r Situationist International. Dechreuais i ymddiddori ynddyn nhw ar ôl gweld cyfeiriad atynt gan y Manic Street Preachers, ac roeddwn wrth fy modd â’r syniad o ganfod tywod – delwedd neu drosiad o fyd natur yn ehangach – o dan gerrig y stryd ddinesig. Rhywsut ro’n i’n gweld hyn yn ddelwedd a oedd yn tynnu nifer o gerddi’r gyfrol ynghyd – y syniad o ofyn a yw delfrydiaeth yn dal yno o dan gerrig stryd ganol oed. Daeth llawer o ysbrydoliaeth ar gyfer cerddi unigol y gyfrol trwy wahoddiad gan unigolion a sefydliadau gwahanol – dw i’n lwcus iawn bod pobl yn gofyn imi sgwennu cerddi ar gyfer achlysuron a dibenion gwahanol. Mae wir yn fraint, yn ysbrydoliaeth ac yn sbardun bob tro. Does dim byd tebyg i’r ysbrydoliaeth y mae rhywun yn ei deimlo wrth yrru adre o noson farddoniaeth, neu sgwrs i gymdeithas, neu steddfod leol, chwaith!
Oes yna neges y gyfrol?
Dw i’n gobeithio y bydd pawb sy’n darllen y gyfrol yn cael hyd i neges berthnasol a phersonol ynddi, ond dw i ddim yn meddwl bod gen i un neges fawr ynddi yr oeddwn yn fwriadol geisio ei throsglwyddo, sy’n wahanol i fy ngwaith yn y gorffennol o bosib. Dw i’n meddwl mai’r syniad o werth dal ati, o werth pob cyfraniad mae rhywun yn gallu ei wneud, ac o werth cariad at deulu a bro (a byd) sy’n cael ei fagu drwy brofiadau bob dydd sy’n aros gyda fi. O ran pethau ymarferol iawn am grefft barddoni, mae’r broses o ddwyn y gyfrol ynghyd wedi pwysleisio eto i mi bwysigrwydd y traddodiad cymdeithasol sy’n gwerthfawrogi barddoniaeth, a bod fy nghrefft i yn rhywbeth sydd wastad angen ei gloywi trwy arfer – mae wastad yn bosib gwella a dysgu mwy.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel bardd?
Dros y blynyddoedd diwethaf dw i wedi mwynhau darllen cofiannau am feirdd a llenorion yr oeddwn yn astudio eu gwaith yn yr ysgol, a rhai eraill hefyd. Cofiannau Alan Llwyd (Bob – Cofiant R. Williams Parry 1994-1956, Cofiant Kate Roberts 1891-1985, Cofiant D. Gwenallt Jones 1899-1968, a Cofiant Waldo Williams 1904-1971, cofiant Saunders Lewis (Un Bywyd o Blith Nifer) gan Robin Chapman, a chofiant Prosser Rhys (E. Prosser Rhys 1901-45) gan Rhisiart Hincks. Amrywiol gyfrolau llythyron Saunders Lewis, Kate Roberts a DJ Williams wedyn, a chyfrolau Hefin Wyn a Glen George am Niclas y Glais. Mi wnes i fwynhau cofiant Derec Llwyd Morgan i Thomas Parry (Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985) yn fawr iawn, ac es ati i ddarllen rhai o gyfrolau Thomas Parry ei hun wedyn. Dw i’n dychwelyd at Memoirs y bardd o Chile, Pablo Neruda yn aml, ac On Writing gan un o fy hoff awduron rhyddiaith, Stephen King. Dw i’n aml yn cael fy ysbrydoli gan hanes bywyd y llenorion hyn, a rhan ysgrifennu yn eu bywydau.