Mae’r enillwyr cyntaf o Gymru yng Ngwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yng Nghaerdydd wedi cael eu datgelu.

Bydd llu o wobrau’n cael eu rhoi i gwmnïau, cynyrchiadau ac unigolion o’r gwledydd Celtaidd mewn nifer o feysydd dros y tridiau nesaf.

Aeth y wobr yn y categori Comedi: Sain i What Just Happened?, sef sioe banel y digrifwyr Kiri Pritchard-McLean a Robin Morgan yn edrych yn ddychanol ar newyddion yr wythnos o Gymru.

Mae’n rhoi persbectif unigryw Cymreig ar y newyddion, ac yn rhoi llwyfan i ddigrifwyr hen a newydd.

Mae’n cael ei chynhyrchu gan Little Wander, sef cwmni Henry Widdicombe, cyd-sylfaenydd a chyd-drefnydd gwyliau comedi Machynlleth ac Aberystwyth.

Y canwr ac actor Luke Evans o Bontypŵl ddaeth i’r brig yn y categori Adloniant: Sgrin, a hynny am ei sioe deledu Showtime! gan Afanti i BBC Cymru.

Mae Blood, Sweat and Cheer, ddaeth i’r brig yn y categori Dogfen Chwaraeon: Sgrîn yn dilyn hynt a helynt tîm Codi Hwyliau (cheerleading) Cymru, wrth iddyn nhw anelu am fedal aur yn erbyn tîm yr Unol Daleithiau yn Fflorida.

Mae’r rhaglen wedi’i chynhyrchu gan Little Bird Films Ltd i BBC3 a BBC Cymru.