Roedd rhagor o lwyddiant i raglenni a chwmnïau cynhyrchu o Gymru yn yr ail set o wobrau sydd wedi’u cyhoeddi yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yng Nghaerdydd.

Ar y diwrnod cyntaf, roedd gwobrau i What Just Happened?, Showtime!, a Blood, Sweat and Cheer.

Roedd pedair gwobr arall i Gymru ar yr ail ddiwrnod ddoe (dydd Mercher, Mehefin 5).

Chris a’r Afal Mawr, sy’n dilyn hynt a helynt Chris ‘Flamebuster’ Roberts yn Efrog Newydd, ddaeth i’r brig yn y categori Adloniant Ffeithiol.

Yn y rhaglen hon gan Cwmni Da, mae’r cogydd yn mynd i’r afael â bwyd traddodiadol dinas Efrog Newydd, sy’n enwog am frechdanau pastrami.

Yno, mae’n ymweld â Katz Deli, y bar bohemaidd Corner Bistro ym Manhattan am fyrgyr, mae’n cael pizza ar fws melyn, ac yn ceisio creu bwyd gwreiddiol newydd gyda Chef Sibs.

Mae Wrexham on Parade i BBC Radio Wales yn olrhain llwyddiant tîm pêl-droed Wrecsam wrth iddyn nhw godi trwy’r cynghreiriau ar ôl cael eu prynu gan yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Ar ôl pymtheg mlynedd tu allan i’r Gynghrair Bêl-droed, cafodd y freuddwyd Hollywoodaidd ei gwireddu wrth iddyn nhw ennill dyrchafiad i’r Ail Adran yn 2023, ac fe fu dathliadau mawr ar fws agored o amgylch y ddinas gerbron miloedd o gefnogwyr ar strydoedd y ddinas.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gan Catrin Heledd â nifer o’r cefnogwyr hynny.

Yn y categori Ffeithiol: Sain, roedd gwobr i The Crossbow Killer, gan Overcoat Media i Radio Wales, wrth i Meic Parry a Tim Hinman ymchwilio i hanes llofruddio Gerald Corrigan tu allan i’w gartref ar Ynys Môn yn 2019.

Mae’n cael ei disgrifio fel ‘Noir’ Cymreig, ac mae’n cynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth wreiddiol.

Trystan ac Emma, rhaglen Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford ar Radio Cymru, oedd yn fuddugol yn y categori Adloniant: Sain.

Yn y rhaglen ddwy awr hon, cawn hwyl a chwerthin yng nghwmni’r cyflwynwyr gan gynnwys enghreifftiau gan y gwrandawyr o ganeuon maen nhw wedi camddeall eu geiriau, cwis wythnosol Yodel Ieu, a llu o westeion.

 

Gŵyl Gyfryngau Celtaidd

Datgelu enillwyr cyntaf Cymru yn y Gwobrau Cyfryngau Celtaidd

Mae’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd flynyddol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd eleni