Hyd yn oed yn yr oes fodern, mae risgiau o hyd. Fel menyw, mae’r ofn yn un go iawn.

Dyma sut mae Chroma yn disgrifio’r profiad o fod yn fand benywaidd yn 2024, wrth iddyn nhw baratoi i gefnogi’r Foo Fighters ar eu taith sy’n dechrau’r wythnos nesaf.

Bydd y daith ‘Everything or Nothing’ yn mynd â nhw i Fanceinion, Glasgow, Llundain, Caerdydd a Birmingham, wrth i’r Foo Fighters hyrwyddo’u halbwm newydd eu hunain, ‘But Here We Are’.

Mae 70% o’r rhai sy’n eu cefnogi nhw ar eu taith naill ai’n artistiaid benywaidd unigol neu’n fandiau sydd â menywod yn brif leisydd.

‘Casineb’

Mae Chroma yn galw am wneud mwy i greu amgylchedd diogel i gerddorion benywaidd.

Wrth drafod y sefyllfa, mae Katie Hall yn cofio achlysur pan ddywedodd dyn dieithr wrth aelodau gwrywaidd y band ei fod e “eisiau cael rhyw” gyda hi.

“Wnaeth y dyn yma ddod lan i’r ddau ohonoch chi [Zac Mather a Liam Bevan] a dweud, ‘Dw i’n mynd i gael rhyw gyda Katie ar ôl y sioe’,” meddai, wrth gyfeirio’r atgof at ei chyd-aelodau.

“Daeth y bois lan ata’i a dweud, ‘Katie, paid â mynd yn agos at y dyn yna’.

“Dw i’n gwybod fydd y bois wastad yn gofalu amdana’i 100%, ond mae e dal yn anghredadwy.”

‘Gwneud yn well’

Fe fu’r band yn rhannu eu profiadau fel rhan o ymgyrch ‘Iawn’ Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio y llynedd fel platfform dan arweiniad y gmuned, i annog dynion ifainc i gymryd cyfrifoldeb personol ac ar y cyd dros ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

“Mae e i wneud gyda gwybod sut allwn ni, fel dynion, wneud yn well i ymateb i unigolion pan maen nhw’n dweud rhywbeth sydd ddim yn swnio’n iawn,” meddai Zac Mather, gan ychwanegu ei bod hi’n bwysig i ddynion herio’i gilydd mewn ffordd ddiogel pan fydd rhywbeth amhriodol yn cael ei wneud neu ei ddweud.

“Mae’n bwysig i gael y sgyrsiau anodd yna gyda dynion heb deimlo dy fod yn rhoi dy hunan mewn sefyllfa beryglus, ble gallan nhw fod yn dreisgar neu ddiystyrru yr hyn ti’n dweud,” meddai.

‘Mae’r ofn yn un go iawn’

Dim ond drwy herio ymddygiad gwael dynion eraill y gall dynion helpu i newid pethau, yn ôl Katie Hall.

“Mae’n bwysig i leisio’r pethau yma, achos efallai fyddai’r person yna ddim yn ymwybodol o’r darlun ehangach neu’n ymwybodol eu bod nhw’n ei wneud e,” meddai.

“Mae’r ofn yn un go iawn.”

Y llynedd, rhyddhaodd y band albym o’r enw ‘Ask for Angela’, wedi’i enwi ar ôl ymgyrch sy’n cael ei weithredu mewn bariau, clybiau a busnesau trwyddedig ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru.

Mae’n rhoi cyfle i bobol sy’n teimlo mewn perygl, ac sy’n fregus neu dan fygythiad, i fynd at aelod o staff a gofyn iddyn nhw am ‘Angela’, gan roi gwybod i staff fod angen cymorth arnyn nhw.

“Wnes i weld poster yr ymgyrch mewn toiled, a meddyliais ei fod yn ddiddorol, achos mae’n cydnabod bod dal risgiau i bawb, hyd yn oed yn yr oes fodern hon,” meddai Katie Hall.

“Fel menyw, mae’r ofn yn un go iawn.

“Bob tro dw i’n cerdded adref o dŷ ffrind sydd dim ond lawr y ffordd, mae nhw’n bryderus ac yn dweud wrtha’ i decstio pan dwi’n cyrraedd.”

Dros y blynyddoedd, mae’r band wedi sicrhau eu bod nhw’n cynnal sgyrsiau ynglŷn â diogelwch menywod a sut allan nhw gefnogi menywod.

“Ers i ni sefydlu, rydyn ni wedi cael lot o sgyrsiau,” meddai Liam Bevan.

“Mae yna bethau dw i erioed wedi meddwl ddwywaith amdanyn nhw fel dyn.

“Dim ond pan wyt ti yn yr amgylcheddau yna eto, mae gen ti ongl newydd ar beth all fod yn digwydd o dy gwmpas efallai na fydde ti wedi’i sylwi arnyn nhw o’r blaen.”