Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Llŷr Titus, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffuglen gydag Anfadwaith.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda…

Mae Anfadwaith yn nofel ffantasi dywyll sydd hefyd yn nofel ddirgelwch – rhyw fath o who-dunnit Canol Oesol. Ynddi mae Ithel yn ceisio datrys cyfres o lofruddiaethau ddigon erchyll gyda chymorth Adwen y porthmon a’i chi Gel. Mae Ithel yn un o’r Gwigiaid –  endidau sy’n gyfuniad o wahanol eneidiau mewn corff sydd wedi ei godi o gors i forol am gyfraith a threfn. O achos hynny mae Ithel a gweddill y Gwigiaid yn defnyddio rhagenw ‘nhw’. Mae’r criw yn mynd ar daith i geisio datrys y dirgelwch a dod o hyd i gyfiawnder (beth bynnag ydi hwnnw) ac yn dod ar draws pob math o beryglon, creaduriaid rhyfedd a chynllwynio gwleidyddol.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Dwi’n hoff iawn o chwedlau a llên gwerin ac yn y blaen ac mae yna dipyn o hynny yn Anfadwaith hefo llawer o’r creaduriaid a’r swynion yn dod o draddodiadau Cymreig. Dwi hefyd hefo diddordeb mawr mewn hanes ac archeoleg ac wedi pigo rhyw fanion yma ag acw ers blynyddoedd sydd wedi dod yn rhan o fyd y nofel. Mae’r Gwigiaid er enghraifft wedi eu hysbrydoli yn rhannol gan gyrff cors go iawn sydd wedi cael eu darganfod ar draws Ewrop wedi eu piclo mewn tir mawnog. Mi oeddwn i hefyd wedi fy ysbrydoli gan ddiffyg nofelau ffantasi Cymraeg pan oeddwn i’n fengach; erbyn hyn mae pethau’n gwella hefo criw gwych o awduron yn bwrw iddi ond mi oeddwn i dal eisiau ysgrifennu’r math o beth y byddwn i’n hoffi ei ddarllen yn Gymraeg. Roeddwn i hefyd yn chwilio am fath cynhenid Cymreig o ysgrifennu ffantasi, rhywbeth sydd wedi ei wreiddio yn ein hiaith, byd-olwg a’n traddodiadau ni, dwn i’m os ydw i wedi llwyddo ond mae Anfadwaith yn rhan o’r daith honno. Mi ges i ysbrydoliaeth o lwyth o genres gwahanol hefyd – arswyd, nofelau hanesyddol a ditectif er enghraifft.

Oes yna neges y gyfrol?

Dw i’m yn un am ddeddfu os oes yna negeseuon yn fy ngwaith fy hun ond mae yna drafod ar be’n union ydi cyfiawnder yn Anfadwaith a phwy sydd gan hawl i’w gael o, a sut. Mae hi’n gyfrol sy’n archwilio galar, dial, hunaniaeth a thrais hefyd. Dwi’n ymwybodol fod nifer o nofelau ffantasi yn rhyw ramanteiddio trais neu o leiaf yn ei gyflwyno fo mewn ffordd ‘lanach’ na be ydi o go iawn a heb oblygiadau chwaith; mi oeddwn i am newid mymryn o hynny hefo hon.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur/bardd?

Fyddwn i ddim yn ysgrifennu nofelau heblaw am waith Terry Pratchett, awdur ffantasi dawnus iawn. Fo oedd yr awdur cyntaf i wneud i mi feddwl o ddifri am fwrw iddi i ysgrifennu nofelau yn fy arddegau a hynny am wn i am fod ganddo fo lais mor bendant. Yn fwy penodol yn achos Anfadwaith efallai mi wnes i gael blas ar nofelau The Cadfael Chronicles gan Edith Pargeter neu Ellis Peters sy’n rhyw fath o nofelau ditectif hefo mynach Canol Oesol yn ymchwilio ynddyn nhw. Mi oedd nofel Hilary Mantel, Wolf Hall, yn ysbrydoliaeth hefyd o ran sut y llwyddodd hi i gyfleu byd a byd-olwg cymeriadau o gyfnod gwahanol i’n un ni. Mi wnes i hefyd droi at Eiriadur Prifysgol Cymru droeon wrth chwilio am enwau!

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2024

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 14!