Roedd rhagor o lwyddiant eto fyth i gynyrchiadau o Gymru ymhlith y gwobrau olaf i’w dosbarthu yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yng Nghaerdydd ddoe (dydd Iau, Mehefin 6).

Daeth cadarnhad yn y seremoni olaf hefyd mae Tewynblustri (Newquay) yng Nghernyw fydd lleoliad yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

Aeth y gwobrau olaf i Paranormal: The Girl, The Ghost and The Gravestone gan Twenty Twenty Productions i’r BBC, Tapiau Coll Stiwdio Les gan Cwmni Da i Radio Cymru, How This Blind Girl gan Boom Cymru i’r BBC, ac i Black Music Wales gan Lazerbeam i’r BBC.

Paranormal: The Girl, The Ghost and The Gravestone

Paranormal: The Girl, The Ghost and The Gravestone ddaeth i’r brig yn y categori Cyfres Ffeithiol: Sgrîn.

Siân Eleri, cyflwynydd Radio 1, sy’n cyflwyno’r bocs-set yma sy’n ymchwilio i dŷ bwgan mwyaf gwledydd Prydain, oedd unwaith yn ffermdy cyffredin yng ngogledd Cymru.

Yn ôl y sôn, byddai geiriau’n ymddangos ar waliau’r adeilad, gwrthrychau’n symud, a nifer o bobol yn dweud eu bod nhw wedi gweld ffigwr oedd, mae’n debyg, yn ferch gafodd ei chladdu yng ngardd y ffermdy.

Cafodd cannoedd o achosion eu cofnodi ar ffurf ffilm, ffotograffau ac atgofion pobol, ond beth yn union ddigwyddodd ar Fferm Penyffordd, tybed?

Tapiau Coll Stiwdio Les

Daeth Tapiau Coll Stiwdio Les i’r brig yn y categori Dogfen: Sain.

Mae’r rhaglen gan Cwmni Da i BBC Radio Cymru yn cynnig cyfle i glywed rhai o ganeuon enwoca’r artistiaid gafodd eu cynhyrchu gan y diweddar Les Morrison.

Yn eu plith roedd Gruff Rhys, Twm Morys, Siân James a Mark Roberts.

Dyma gyfle hefyd i ddathlu cyfraniad enfawr y cynhyrch sy’n cael ei ystyried yn arwr coll y Sîn Roc Gymraeg.

How This Blind Girl

Yn y rhaglen How This Blind Girl gan Boom Cymru i’r BBC, oedd yn fuddugol yn y categori Ffurf Fer: Sgrîn, cawn glywed am hynt a helynt dynes ifanc rannol ddall o Gaerdydd yn ceisio ymdopi â’i bywyd.

Mae pob pennod yn adrodd hanes un o’r sefyllfaoedd fu’n heriol i Ceri fel dynes rannol ddall.

Mae’n llawn eiliadau sydd wedi achosi embaras, dryswch ac anawsterau iddi.

Ond gall pawb, boed yn rhannol ddall neu beidio, uniaethu â’r sefyllfaoedd mae’n ei chanfod ei hun ynddyn nhw.

Black Music Wales

Aeth gwobr Y Celfyddydau: Sgrîn i Black Music Wales gan Lazerbeam i’r BBC.

Mae’n olrhain twf cerddoriaeth gan artistiaid Du o Gymru sy’n gwneud enw iddyn nhw eu hunain ar y radio ac mewn gwyliau cerddorol.

Ond pam ei bod hi wedi cymryd cyhyd iddyn nhw gael sylw? Dyna’r cwestiwn i’r cyflwynydd L E M F R E C K wrth archwilio hanes yr artistiaid hynny sydd wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth.

Mae’r rhaglen yn rhoi sylw i artistiaid cyfoes a’r rheiny aeth yn angof dros y blynyddoedd.