Fe fu nifer o gwmnïau, cynyrchiadau ac unigolion yn dathlu yng Ngwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Yn eu plith roedd cwmni teledu Afanti, ar ôl i’r sioe deledu Luke Evans: Showtime! ddod i’r brig yn y categori Adloniant: Sgrin.

“Mae’n grêt gweld artist mor fyd enwog a Luke, sy’n caru ei famwlad gymaint, yn hollol thrilled i glywed ar tecst genna’i ein bod ni wedi ennill cydnabyddiaeth arall i’w sbesial ar ben y Bafta,” meddai Emyr Afan, Prif Weithredwr Afanti.

“Be sy’n fwy arbennig i mi yw bod artist fel Luke yn rhoi ei amser i ddod ’nôl i Gasnewydd, sef ardal o Gymru sydd ddim yn gweld digon o’n camerâu teledu, ac yn denu gyda fe artistiaid eraill byd enwog fel Leanne Rimes, Nicole Scherzinger, Beverley Knight ac Olly Murs i berfformio.

“Mae Afanti wedi ceisio arwain y ffordd o ddyddiau cynnar y Faenol yng Nghaernarfon i Donny Osmond ym Merthyr Tudful, Syr Tom Jones ym Mharc Ynys Angharad Pontypridd (safle’r Eisteddfod eleni) i Katherine Jenkins nol yn Abertawe just cyn Dolig. Mae adlewyrchu pob cwr o Gymru yn bwysig i ni.”

Emyr Afan o Afanti yn derbyn y wobr yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yng Nghaerdydd

“Yn bersonol roedd yn hyfryd clywed y beirniaid rhyngwladol yn canmol gwerthoedd cynhyrchu uchel y cynhyrchiad a safon y cyfarwyddo.

“Mae angen diolch i BBC Cymru am gefnogi adloniant yng Nghymru. Mae wir angen codi gwen ar hyn o bryd ac mae’n bwysig cael cymysgedd o ffeithiol, drama ac adloniant ym mhob amserlen lwyddiannus.”


Dyma’r enillwyr eraill o Gymru:

Categori Comedi: Sain – What Just Happened?, sef sioe banel y digrifwyr Kiri Pritchard-McLean a Robin Morgan sy’n bwrw golwg ddychanol ar newyddion yr wythnos o Gymru.

Categori Dogfen Chwaraeon: Sgrîn – Blood, Sweat and Cheer sy’n dilyn hynt a helynt tîm Codi Hwyliau (cheerleading) Cymru, wrth iddyn nhw anelu am fedal aur yn erbyn tîm yr Unol Daleithiau yn Fflorida.

Categori Adloniant Ffeithiol – Chris a’r Afal Mawr, sy’n dilyn hynt a helynt Chris ‘Flamebuster’ Roberts yn Efrog Newydd.

Categori Ffeithiol: Sain – The Crossbow Killer – Meic Parry a Tim Hinman sy’n ymchwilio i hanes llofruddiaeth Gerald Corrigan tu allan i’w gartref ar Ynys Môn yn 2019.

Categori Chwaraeon (Sain) Wrexham on Parade i BBC Radio Wales sy’n olrhain llwyddiant tîm pêl-droed Wrecsam ar ôl cael eu prynu gan yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Categori Adloniant: Sain – Trystan ac Emma – rhaglen Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford ar Radio Cymru.

Categori Cyfres Ffeithiol: Sgrîn – Paranormal: The Girl, The Ghost and The Gravestone – Siân Eleri, cyflwynydd Radio 1, sy’n cyflwyno’r bocs-set yma sy’n ymchwilio i dŷ bwgan mwyaf gwledydd Prydain, oedd unwaith yn ffermdy cyffredin yng ngogledd Cymru.

Categori Dogfen: Sain – Tapiau Coll Stiwdio Les. Mae’r rhaglen gan Cwmni Da i BBC Radio Cymru yn cynnig cyfle i glywed rhai o ganeuon enwoca’r artistiaid gafodd eu cynhyrchu gan y diweddar Les Morrison.

Categori Ffurf Fer: Sgrîn How This Blind Girl – rhaglen gan Boom Cymru i’r BBC, sy’n dilyn hynt a helynt dynes ifanc rannol ddall o Gaerdydd yn ceisio ymdopi â’i bywyd.

Categori Y Celfyddydau: Sgrîn – Black Music Wales sy’n olrhain twf cerddoriaeth gan artistiaid Du o Gymru sy’n gwneud enw iddyn nhw eu hunain ar y radio ac mewn gwyliau cerddorol.