Ym mis Ebrill, mynychais ddiwrnod Cyhoeddi’r Eisteddfod yn Llwyn Isaf, Wrecsam. Dyma’r ail seremoni o’r fath i mi ei mynychu, hyd y gwn i – y gyntaf oedd honno yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys ychydig flynyddoedd yn ôl. Pethau digon prin ydan nhw yma yn Wrecsam.
Cyrhaeddais yr un adeg â cyfaill, a mynegodd hi syndod wrth fy ngweld yn y maes parcio, achos roedd hi wedi meddwl fyswn innau yn rhan o’r seremoni ac felly draw ar y cae yn barod. Ac mi oedd yn sylw digon teg, ynde.
Waeth beth mae unrhyw un yn ei feddwl o ’safon’ fy ngwaith, rwy’ wedi bod yma yn rhan o’r dirwedd yn cyfrannu, neu’n ceisio cyfrannu, ers ryw ugain mlynedd bellach.
Cyfraniadau cynnar o naws ogledd-ddwyreiniol i gyhoeddiadau megis Tu Chwith, ac yna rhwng 2009 a 2020 sgwennais y golofn ‘Synfyfyrion llenyddol’ i’r Clawdd, sef papur bro Wrecsam, gan blogio’r erthyglau wedyn i bawb gael mynediad atyn nhw.
Ocê. Tydi sgwennu i bapur bro efallai ddim yn weithred hynod o ‘lenyddol’, ond o fewn cyd-destun Wrecsam, gyda chyn lleied o bobol yn siarad Cymraeg neu’n parhau i wneud ar ôl gadael Ysgol Morgan Llwyd, mae’n dipyn o beth – yn enwedig o sidro fod gen i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Ond dyna oedd wedi fy nifetha hefo’r Orsedd y tro hwn, yli. Er mwyn cael mewn iddi drosoch chi eich hun (yn hytrach na chael eich enwebu), mae’n rhaid bod â gradd yn y Gymraeg, Cerddoriaeth neu bwnc gafodd ei astudio’n bennaf drwy’r Gymraeg, neu basio arholiad (ac mae fy Anghenion Dysgu Ychwanegol yn golygu na fedraf fyth gwneud hynny).
Y meini sy’n fy eithrio
Ym mis Hydref, cefais e-bost yn gofyn a fyswn yn rhannu llythyr hefo golygyddion papur bro Y Clawdd yn tynnu sylw at arholiadau’r Orsedd, er mwyn rhannu’r wybodaeth hefo trigolion Wrecsam a’u hannog i ymgeisio.
Nid oedd yn syndod i’r llythyr gael ei yrru ata’ i, wrth gwrs, gan fy mod wedi sgwennu i’r Clawdd am unarddeg o flynyddoedd, ac mi ydw i nawr yn sgwennu’r golofn ‘O’r Gororau’ i gylchgrawn Barddas, ac yn sgwennu’r golofn yma i golwg360. Felly rwy’n gyswllt amlwg, on’d ydw?
Sgwennais yn ôl, gan esbonio ein bod ni wedi gorfod dod â’r Clawdd i ben, ond fod cynlluniau ar y gweill i greu gwefan fro i Wrecsam ar Bro360, ac i drafod ffyrdd eraill o ledaenu’r wybodaeth.
Wrth gwrs, roeddwn wedi cyffroi rywfaint heb syniad yn y byd beth oedd y broses dan sylw. Ac yn naïf ddigon, dechreuais feddwl be’ fysa fy enw yng ngorsedd. Sara o’r Gororau? Sara Clwyd? Sara Erddig? Sara Dyfrdwy…?
Ond pan ddarllenais yr atodiad i’r e-bost nesa’ gan yr Orsedd, suddodd fy nghalon – a’r frawddeg yma’n benodol oedd y broblem:
1. (Gorfodol) Cyfansoddi darn byr o ryddiaith (tuag un dudalen o’r papur ysgrifennu a ddarperir) ar un pwnc o blith dewis o destunau a roddir ar y pryd, i brofi gafael ar ramadeg a chystrawen mewn Cymraeg ysgrifenedig.
A dyma fi, felly, allan o’r ras cyn i mi hyd yn oed gyrraedd y cae. Oherwydd mae’r Anghenion Dysgu Ychwanegol rwy’n byw â nhw yn ei gwneud hi’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i mi ddysgu patrymau. Dyma pam wnes i stryffaglu i ddysgu gramadeg a sillafu yn y ddwy iaith o gwbl. Yn ôl fy asesiad hefo’r Seicolegydd Addysgol ym mis Hydref 1996:
“The particular cognitive processes which are creating the difficulties for Sara are:-
- Her auditory short-term sequential memory which underfunctions in a way consistent with what is popularly termed ‘Dyslexia’. It is this which creates the various functional reading, spelling, mathematics, and language difficulties which she has.“
Sylwer hefyd taw trwy gyfrwng y Saesneg oedd y prawf – doedd y seicolegydd ddim yn siarad Cymraeg, felly nid fy ‘niffyg Cymreictod’ oedd fy mhroblemau uchod.
Ond ar ben fy anawsterau personol, wrth gwrs, mae yna’r broblem fod Cymraeg yr Orsedd, a’i chystrawen, yn debygol o fod yn ‘Gymraeg y Ffin’, sy’n estron i garfan go lew ohonom sy’n gyn-ddisgyblion Ysgol Morgan Llwyd; mae’r sawl sydd yn dysgu’r ‘Gymraeg’ from scratch, fel petai, yn dysgu iaith y ffin.
Ablaeth rhemp y gorsedd
Wrth i mi wylio’r seremoni, digwyddais daro i mewn i un o gyn-ddisgyblion Ysgol Morgan Llwyd oedd wedi trafaelio i fyny o Gaerdydd ar gyfer yr achlysur. Mynegodd hithau ei syndod nad oeddwn innau’n rhan o’r digwyddiad (roeddem newydd glywed cerdd am bêl-droed gan Bryan Martin Davies, bardd o Gaerfyrddin ddaeth i fyw i Wrecsam ac i weithio yn Rhiwabon.
Erbyn hyn, roedd fy nheimladau o ennui wedi cyrraedd rhyw fath o crescendo. Esboniais yr eironi cas fod yr Orsedd wedi gofyn i mi ledaenu’r wybodaeth am yr arholiad ymysg trigolion Wrecsam, er gwaetha’r ffaith fod yr arholiad hwnnw yn fy eithrio i a phobol eraill hefo Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gyffredinol!
Synnodd fy nghyfaill wrth glywed am y meini prawf, a gwnaeth hi’r gymhariaeth gwbl resymol hefo’r byd academaidd, lle mae addasiadau rhesymol bellach yn caniatáu i bobol fel fi gwblhau gradd – ac yn wir, hyd yn oed ddoethuriaeth, drwy gydnabod nad ydym yn medru dysgu patrymau sydd yn sail i sgiliau megis sillafu, gramadeg, cystrawen, a threiglo, ond fod cyfraniad gennym i’w wneud serch hynny.
Fyswn yn ychwanegu fan hyn, fodd bynnag, ei bod hi’n debyg fod rhan helaeth o academia ond yn cyfaddawdu ar Anghenion Dysgu Ychwanegol oherwydd y deddfau cydraddoldeb niferus dros y blynyddoedd sy’n cynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol fel rhan o anabledd a’r ‘nodweddion gwarchodedig’. Ond mae’n debyg fod yr Eisteddfod wedi’i heithrio o’r gyfraith hon gan ei bod yn sefydliad preifat.
Mae yna feysydd o fewn academia, wrth gwrs, lle mae profion cystrawen yn effeithio ar eich gradd lle bo hynny’n briodol, megis yn y Gymraeg ac ar gyfer arholiadau cyfieithu oherwydd, wrth reswm, mae angen y sgiliau hyn ar gyfer y gwaith y byddwch yn ei wneud wedi hynny.
Ond hyd y gwn i, nid yw’r sgiliau yma’n bwysig er mwyn cael gwisgo gwisg hir sidan las neu wyrdd, ac eistedd hefo ‘hoelion wyth’ eraill Cymru? Felly, pam taw dyma’r meini prawf ar gyfer hunanenwebu?
I gloi
Wrth feddwl am y feddylfryd elitaidd, snobyddlyd, anwybodus sydd wrth wraidd y meini prawf yma, a pha mor estron yw’r diwylliant Eisteddfodol i mi a fy nghynefin, haws fyddai troi cefn ar y cwbl – ac eto, mae angen ‘galw ablaeth allan’, on’d oes?
Wrth gwrs, un enghraifft yn unig o’r weledigaeth gul, undonog o ddoniau a hunaniaeth ‘y Cymry’ yw’r ablaeth rhemp uchod.
Mae’r prosesau enwebu ar gyfer sawl agwedd ar yr Eisteddfod yn syfrdanol o fympwyaidd, ac yn ymwneud mwy hefo nepotistiaeth a dylanwad nag unrhyw ddoniau neu gyfraniadau i’r gymdeithas… Ond sgwarnog arall yw honno…!