Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Bee Hall sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Am Dro ar S4C.
Mae Bee Hall yn byw ger Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae hi wedi bod yn athrawes, awdur a golygydd ond bellach wedi ymddeol. Mae hi’n dysgu Cymraeg ers pedair blynedd gyda Popeth Cymraeg.
Bee, beth yw eich hoff raglen ar S4C?
Fy hoff raglen ydy Am Dro.
Pam dych chi’n hoffi’r rhaglen?
Mae’r rhaglen yn dangos gwahanol rannau o Gymru ac yn rhoi’r cyfle i mi ddarganfod lleoedd faswn i’n licio ymweld â nhw.
Beth dych chi’n feddwl o’r cyflwynwyr?
Dw i’n hoffi’r cyflwynydd achos mae gynno fo hiwmor da – dydy o ddim yn caniatáu i’r cerddwyr ymffrostio gormod.
Pam fod y rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?
Mae’n helpu dysgwyr achos bod y cyd-destunau’n glir a dan ni’n medru dilyn y prif syniadau: cefn gwlad, disgrifiadau’r bobl ohonyn nhw eu hunain a’r bwyd maen nhw’n paratoi am bicnic.
Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?
Mae cyfranogwyr yn siarad Cymraeg o’r gogledd a’r de ac weithiau Wenglish!
A fyddech chi’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?
Mi faswn yn awgrymu i bobl wylio’r rhaglen i ddarganfod y wlad ac i wrando ar yr iaith.
Mae’n addysgiadol ac yn ddifyr – mae’n werth ei gweld.