Cennard Davies, un sydd wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd Cymraeg ardal Treorci a’r Rhondda, fydd Llywydd yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.
Un o Dreorci yw Cennard Davies, ac oni bai am gyfnodau ym Mhrifysgol Abertawe a chwta flwyddyn yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, bu’n byw yn y dref ar hyd ei oes.
Bu’n dysgu yn Ysgol Ramadeg y Porth yn y Rhondda am gyfnod, cyn mynd i Goleg y Barri i arwain cwrs yn y Gymraeg ar gyfer athrawon.
Treuliodd weddill ei yrfa’n dysgu Cymraeg i oedolion, a daeth yn bennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg.
Yn ogystal â dysgu oedolion yn lleol, roedd yn gyfrifol am greu’r rhaglen Catchphrase ar Radio Wales, ac yn un o gyflwynwyr y gyfres.
Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr ardal Dsygu Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn un o arloeswyr cynnar Nant Gwrtheyrn, ac yn awdur sawl llyfr gan gynnwys The Welsh Language a Hiwmor y Cymoedd.
Bu’n gadeirydd Mudiad Meithrin yn y saithdegau hefyd, a bu’n Llywydd Anrhydeddus Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg.
Bu’n olygydd Y Gloran, papur bro’r Rhondda, am ddegawdau, yn gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, ac yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Capel Hermon, Treorci.
‘Dyn ei filltir sgwâr’
“Mae’n fraint anrhydeddu Cennard Davies fel Llywydd Eisteddfod 2024 – dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan,” meddai Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni.
“Mae ei gyfraniad i’r sector Dysgu Cymraeg – yn lleol ac yn genedlaethol – yn amhrisiadwy.
“Gŵr bonheddig a sgwrsiwr heb ei ail, mae’n donic i gael treulio amser yn ei gwmni.”
Bydd Cennard Davies yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes y Brifwyl ym Mhontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod.