Mae menter gymunedol yng Ngwynedd yn bwriadu sefydlu Hwb Treftadaeth a Chelf i Ddyffryn Nantlle.

Yn ôl arweinydd y prosiect i sefydlu’r Hwb ym mhentref Penygroes, mae cael dynodiad Safle Treftadaeth y Byd UNESCO fel rhan o Dirwedd Llechi Gogledd Cymru wedi creu’r awydd ar gyfer sefydlu hwb.

Byddai’r hwb yn cynnwys ardal i gyfleu hanes cymdeithasol a threftadaeth yr ardal, ynghyd â gofod ac unedau i artistiaid.

Y bwriad yw ei leoli yn hen Gapel Calfaria yn y pentref neu yn hen adeilad ymgymerwyr y Co-op Funeral Directors, dau adeilad sydd ar y stryd fawr.

‘Dathlu a dysgu’

Menter gymunedol yr Orsaf sy’n arwain y cynllun, ac ar hyn o bryd maen nhw’n cynnal ymgynghoriad i gasglu barn pobol leol.

“Mae o’n dilyn oherwydd dynodiad UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd, ac mae yna awydd wedi bod i weld hybiau o gwmpas yr ardaloedd llechi i gyd – yn amlwg mae’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, wedyn i drio cael pobol i fynd allan i weld mwy o’r ardaloedd llechi dim jyst Llanberis,” meddai Llio Elenid, sydd wedi’i phenodi’n arweinydd y prosiect i sefydlu’r Hwb, wrth golwg360.

“Y syniad ydy bod o’n dweud yr hanes cymdeithasol yn bennaf, pwysleisio’r bobol, a bod o hefyd efo’r gofodau neu’r stiwdios yn y cefn lle geith artistiaid heddiw ddefnyddio i feithrin eu talent nhw – a bod o’n eithaf rhad. Mae hynny’n bwysig.

“Dw i wedi bod yn siarad efo artistiaid a phobol yn y maes, ac maen nhw i gyd yn dweud bod yna ddiffyg mawr am ofod rhesymol o ran pris i artistiaid.

“Rydyn ni’n edrych arno fo fel bod o’n dathlu’r hanes ac yn dysgu’r hanes, ond hefyd bod o ar gyfer y dyfodol hefyd, artistiaid y dyfodol.

“Fydd o hefyd gobeithio’n rhywle lle fyddai twristiaid yn gallu dod draw a dysgu mwy am yr hanes.”

‘Camau cychwynnol’

Mae’r Orsaf yn hwb cymunedol, ynghyd â chaffi a llety, a dywed Llio Elenid fod nifer helaeth o’r bobol sy’n aros yno’n nodi eu bod nhw yno i gerdded yr Wyddfa.

Ar hyn o bryd, mae’r fenter wrthi’n ceisio am grantiau er mwyn gwireddu’r cynlluniau, unwaith fyddan nhw wedi penderfynu ar adeilad.

“Rydyn ni yn y camau cychwynnol, yn cychwyn ar yr ymgynghori, yn holi beth fyddai pobol yn licio’i weld a beth ydy’u barn nhw,” meddai.

“Mae yna awydd yn ôl yr atebion rydyn ni wedi’i gael, dw i wedi bod yn siarad efo’r ysgol amdano fo hefyd ac maen nhw wedi llenwi’r holiadur.

“Fysa ni’n licio gwneud o fwy rhyngweithiol, dim jyst paneli dehongli, bod hi’n bosib gwylio a gwrando ar bethau, trio cael creiriau i ddod yno o lefydd am gwpwl o wythnosau. Ond mae hynna i gyd i ddod yn y cam nesaf.

“Cael adeilad ydy’r cam cyntaf, wedyn cael pres i ail-wneud o tu mewn.”