Roedd cael ei gwneud yn Arweinydd Cymru a’r Byd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni yn “syrpreis mawr” i gantores opera sy’n byw yn Fienna.
Yn wreiddiol o bentref Cwm-bach ger Aberdâr, mae Susan Dennis-Gabriel yn byw yn Awstria ers dros 40 mlynedd.
Mae ganddi atgofion melys o Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1956, meddai, ac mae hi’n edrych ymlaen at gael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod nos Sul, Awst 4.
Ar ôl graddio mewn Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, bu’n dysgu am gyfnod cyn mynd i astudio cerddoriaeth yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol yn Llundain.
O’r fan honno, enillodd ysgoloriaeth i fynd i Brifysgol Fienna.
Bu’n canu gyda chwmnïau opera, cyn dychwelyd i Fienna i weithio, priodi a magu teulu.
Roedd hi’n briod â’r diweddar Wolfgang Gabriel, Athro Cerddoriaeth Prifysgol Fienna, a bu’r ddau’n cydweithio ar weithiau cerddorol – yntau’n cyfansoddi a hithau’n canu.
Eglura mai ffrind iddi yn Aberdâr oedd wedi’i hawgrymu fel rhywun fyddai’n addas ar gyfer swydd Arweinydd Cymru a’r Byd yn y brifwyl eleni.
“Roedd ffrind dw i’n adnabod yn Aberdâr wedi gofyn iddo fe os oedd e’n adnabod rhywun sy’n byw yn rhywle arall ac yn siarad Cymraeg ac wedi cael bywyd diddorol o Gwm Cynon,” meddai wrth golwg360.
“Meddyliodd e amdanaf i, a sgrifennodd e atyn nhw a halodd e gopi ata’ i – roeddwn i’n synnu fy mod i wedi gwneud cymaint!
“Dywedais i fod popeth yn wir, ond sa i byth wedi gweld e wedi’i sgrifennu fel yna o’r blaen!”
“Diwrnod mawr” yn Eisteddfod 1956
Roedd Susan Gabriel-Dennis ymysg y rhai cyntaf i fynd i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ar ddechrau’r 1950au, a’r prifathro cyntaf yno oedd Idwal Rees – gŵr gafodd ddylanwad mawr arni.
“Mae hwnna’n ddiddorol achos dim ond y drydedd ysgol yng Nghymru oedd yn dysgu drwy Gymraeg oedd hi,” meddai.
“Ein prifathro ni oedd Idwal Rees, ac roedd diddordeb mawr mewn cerddoriaeth, canu ac Eisteddfodau gyda fe, felly dechreuais i ganu yn yr Eisteddfodau pan oeddwn i’n ifanc iawn, a fy mrawd i hefyd.
“Welodd Idwal Rees fy mod i’n gallu canu, ac roedd e’n hyfforddi fi i fynd mewn i Eisteddfodau a chanu man hyn a chanu fan draw, a chanu, canu, canu.”
Y tro diwethaf i Susan Dennis-Gabriel gymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd pan fu’r ŵyl yn ymweld ag Aberdâr yn 1956.
“Roeddwn i yn yr ysgol bryd hynny, ac roedd Idwal Rees yn arwain cyngerdd y plant yn y pafiliwn ar y dydd Mawrth,” cofia.
“Roeddwn i yn y côr. Côr mawr o blant o’r holl fro, a rhai yn dawnsio a rhai yn gwneud cân actol, a ni yn canu.
“Roedd e’n ddiwrnod mawr yn fy mywyd i, dw i’n cofio fe’n gywir, dw i’n gallu canu rhai o’r caneuon ddysgon ni, roedd e mor fawr. Roedden ni’n meddwl ein bod ni’n ‘rhywun’.
“Beth wnaeth argraff arna i oedd un ysgol – ysgol uwchradd oedd hi – roedden nhw’n gwneud y Skaters Waltz, a gwisgoedd hyfryd gyda nhw.
“Roeddwn i yn y côr – ‘boring old côr’ – a rheiny mewn gwisgoedd yn dawnsio… roeddwn i’n genfigennus!”