Roedd hi’n noson heulog yn y Ddinas-Sir wrth i mi gerdded o Byd Dŵr i’r Saith Seren i gwrdd â phwyllgor Y Clawdd, sef papur bro Wrecsam. Ar ôl ymofyn ginger ale o’r bar, eisteddais wrth un o fyrddau pren y ganolfan Gymraeg, a dechreuodd Trefor Jones-Morris, cadeirydd y Clawdd, amlinellu’r sefyllfa.
Mi roedd y pandemig a’r cyfnod clo wedi creu sefyllfa barodd i’r Clawdd gael seibiant nad oedd hyd yma wedi adfer ohono… Ond, mewn gwirionedd, mi roedd wedi prysuro sefyllfa anochel. Mi roedd creu’r Clawdd, a’i ddosbarthu, wedi bod dan straen ers peth amser ac wedi mynd yn faich ac yn drech ar y sawl cyfyngedig oedd wrthi’n ceisio parhau ag o.
Yn wir, wrth feddwl, mi roedd y tîm presennol, gan gynnwys fi, wedi dod i mewn oherwydd argyfwng diwethaf Y Clawdd, tua 2008. Yn 2009, dechreuodd Chris Evans fel golygydd, ac yn fuan wedi hynny, dechreuais innau gyfrannu colofn ‘Synfyfyrion llenyddol’.
Diddorol iawn oedd y drafodaeth, a dweud y gwir, gan fod Gareth Williams, Gareth V Williams a Gwynneth Mostyn yn bresennol, a fu’n rhan o’r pwyllgor gwreiddiol, a hefyd Elgan Davies Jones, wnaeth ymuno’n lled ddiweddar; roedd pawb hefo persbectif gwahanol.
Yr heriau
Un o’r heriau mwyaf oedd y gwaith cysodi – sef cynllunio graffigol sy’n gofyn am sgiliau cyfrifiadurol arbennig, lot fawr o amser, amynedd, ac ymroddiad i bob un rhifyn. Er fod yna bobol sydd wrth eu boddau hefo’r math yma o waith, nid oedd unrhyw un ar y tîm yn mwynhau nac efo’r sgiliau i wneud hyn; ac er gwaethaf apelio trwy Facebook ac ati, doedden ni ddim wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu unrhyw un i ymgymryd â’r gwaith.
Fodd bynnag, ar ben hyn mi roedd yr holl strwythur cynhyrchu wedi newid wrth i natur ein cymdeithas newid. Byddem bellach, mewn gwirionedd, angen recriwtio mwy o dosbarthwyr a chyfranwyr hefyd.
Soniodd Trefor am bapurau bro eraill, gan gynnwys Llanw Llŷn, oedd yn swmpus ac yn llawn hysbysebion; ond wrth gwrs, mae ardaloedd ei ddalgylch hefo canran llawer iawn uwch o siaradwyr Cymraeg ac, yn hynny o beth, o brifeirdd, llenorion, a phobol sydd yn fwy tebygol o gyfrannu i bapur bro mewn amryw o ffyrdd.
Ac yna, wrth gwrs, mae’r un heriau sy’n wynebu llawer iawn o gylchgronau a chyhoeddiadau print bellach – wrth i ni symud i fyd mwy digidol, cyhoeddi cyflym, Pentref Byd-eang: lle mae’r cyhoeddiad print, sydd wrth reswm yn fwy araf i’w gyflwyno, yn ffitio?
Wedi cyflawni eu nod?
Wrth synfyfyrio, meddyliais ’nôl at yr ymchwil ddechreuais am y papurau bro rai blynyddoedd yn ôl, a’r ffaith eu bod nhw wedi cael eu creu ar amser heriol i’r iaith Gymraeg, yn enwedig mewn print.
Mae’n rhyfeddol meddwl, ond dim ond rhyw 47 mlynedd sydd ers i Barddas ddod i fodolaeth (1976), ac ni chrëwyd golwg tan 1988. Dechreuwyd y papur bro cyntaf, sef Y Dinesydd (Caerdydd) yn 1973, a dechreuwyd Y Clawdd yn 1987.
Felly ar yr adeg yna, roedd creu papur bro yn weithred realistig i bobol ym mhob bro, ac yn opsiwn da o ran cyfrannu at yr ymgyrch iaith mewn print, ac at fywyd cymunedol lleol hefyd. Ond erbyn hyn, mae yna sawl sianel arall y medrwn gyfrannu drwyddi, gan gynnwys cylchgronau Cymru.
Ymhellach, mae ein harferion ni o ran ymofyn newyddion, gan gynnwys newyddion tra lleol, wedi newid. Rydym bellach hefyd yn cymdeithasu dros ardaloedd mwy eang, gan ymofyn gwybodaeth oddi ar y wê.
Ac yn y byd ôl-pandemig, mae hyn yn fwy gwir nag erioed. Felly, efallai fod y papurau bro, neu’r Clawdd o leiaf, wedi bod yn bont ddefnyddiol i’r iaith, ond a ydyn nhw erbyn hyn wedi cyflawni eu nod?
Y Saith Seren a Bro360
Yn sgil Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2011 gafodd ei chynnal yn Wrecsam, daeth y cysyniad am ganolfan Gymraeg gydweithredol yn Wrecsam, fel y rhai oedd eisoes yn bodoli mewn ardaloedd eraill, megis Tafarn y Plu, Llanystumdwy a Thafarn y Fic, Llithfaen.
Mae hi wedi cael amser digon heriol dros yr unarddeg mlynedd ddiwethaf, a chais iddi gau ’nôl yn 2015, ond cafodd ei hachub drwy ymgyrch codi arian ‘cyllid torfol’. Yn anffodus, mae’r creisis costau byw wedi atgyfodi’r bwgan.
O ran cadw’r Gymraeg yn y gymuned, mae’r Saith Seren yn gwneud gwaith pwysig gan greu gofod lle caiff y gymuned ddod at ei gilydd i fynychu gigs, partïon, a jyst cyfarfod am ddiod a sgwrs – yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg (gyda gwell tebygolrwydd o gyfarfod eraill fydd yn medru ymateb!).
Yn y cyfamser, mae Bro360 wedi dechrau ar y gwaith o greu ardaloedd ar y wefan ar gyfer pob ardal, megis papur bro ond yn ddigidol. Ac mae gwaith wedi dechrau ar sidro tudalen i Wrecsam.
Dechreuais i fel colofnydd ar Y Clawdd, ond bellach fedrith pobol ddechrau ar golwg360 neu Bro360, a hynny gyda help golygyddion profiadol, cyflogedig.
Ac felly, medrwn ni gyd gyfrannu ein hegni, ein cynnyrch, a’n hadnoddau i fentrau lleol megis y Saith Seren, a mentrau canolog megis Bro360 / golwg360, a hei lwc y byddwn i gyd yn llwyddo hefo’n gilydd, tra bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu. Amdani!