Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Barddoniaeth gydag Anwyddoldeb.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Mae Anwyddoldeb yn gasgliad o gerddi sy’n mynd yn ôl dros fwy na chwarter canrif o sgrifennu. Mae’n fath o greatest hits album, Hooked on Elinor Wyn Classics neu Now That’s What I Call Elinor Wyn Reynolds. Nawr, fe wyddom ni fod bywyd yn gymysgedd hyfryd ac ofnadwy o bethau doniol a difrifol, y digri a’r dwys – dyma sydd yn y gyfrol hon. Cerddi i wneud i chi lefen a chwerthin (ond am y rhesymau iawn, gobeithio). Mae yna gerddi i’w darllen ar eich pen eich hunan yn dawel a cherddi i’w clywed mewn cwmni neu eu perfformio hefyd, a digon o bethau eraill sydd rhywle yn y canol. Pic a mics? Tombola medd un adolygydd. Wel, mae hynny’n swnio’n ddigon agos ati.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Mae’r gyfrol yn gasgliad o gerddi dw i wedi codi ar hyd taith bywyd, fel cerrig i boced, ond yn wahanol i gerrig mewn poced, dydyn nhw ddim yn fy mhwyso i lawr o gwbl, er, falle’u bod nhw’n fy ngwreiddio i. Jyst darnau bach o fywyd, sydd gobeithio, yn atseinio gyda phobol eraill. O ran y teitl, Anwyddoldeb, dydy’r gair ddim y bodoli yn y geiriadur (hyd yn hyn). Fe wnaeth Mam glywed rhywun yn ei ddefnyddio ar ddiwedd cyfarfod Merched y Wawr yn ôl yn y saithdegau, fe wnaeth rhywun ddiolch i westai’r noson ‘am ei anwyddoldeb.’ Ei? Beth?! Daeth Mam adre ac fe dreuliodd hi a Dad noson gyfan yn chwilio am y gair mewn geiriaduron. A dod o hyd i ddim byd. Felly, mae ‘anwyddoldeb’ yn gallu golygu unrhyw beth chi am iddo fe olygu. Mae ‘anwyddoldeb’ yn air Swiss Army Knife! Addas at bob pwrpas.

Oes yna neges y llyfr?

Jyst bod bywyd yn llawn cymysgedd anhygoel o amrywiol o bethau sydd weithiau’n medru gwrthddweud ei gilydd. Rhyfeddod yw bywyd, rhyfeddod ar ben rhyfeddod, a’r rheiny’n medru bod yn rhyfeddodau bychain ac anferthol. Mae bywyd yn gymhleth ac yn syml ar yr un pryd, yn bwysig ac yn ddibwys hefyd.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Tawn i’n gorfod dewis un gyfrol, byse’n rhaid i fi ddweud Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard achos mae’r nofel ryfeddol honno’n cynnwys pob dim ynddi, bywyd yn ei gymhlethdod, ac o, mae’r iaith mor boenus o brydferth. Mae’r darllen yn brofiad mor uniongyrchol, mae’n rhyferthwy o nofel. Dw i’n cofio ei darllen hi am y tro cyntaf ar fws yn mynd o’r de i’r gogledd. Dydw i ddim yn cofio dim o’r daith achos roeddwn i’n rhy brysur yn cerdded ar hyd strydoedd pentref bach yng ngogledd Cymru yn gwneud drygau hefo’r hogiau. Yna, pan godes i fy mhen, mwyaf sydyn roeddwn i wedi cyrraedd y gogledd, fel tasen i wedi camu mas o dudalennau’r llyfr i’r gogs go iawn. Dw i’n cofio gadael y bws wedi drysu’n llwyr. Sut oedd hyn yn bosibl? Hud a lledrith? A phan dw i’n darllen y gyfrol eto, mae fel tasen i’n ei darllen hi am y tro cyntaf.

Gallwch ddarllen mwy am Anwyddoldeb a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 23!