Mae’r digrifwyr Kiri Pritchard-McLean ac Esyllt Sears yn teithio ar hyd a lled Cymru ar gyfer podlediad teithio a chomedi newydd sbon, Pod of Wales.
Wedi’i gynhyrchu gan Little Wander mewn cydweithrediad â Croeso Cymru, mae pob pennod yn dilyn y ddwy wrth iddyn nhw ymweld â gwahanol rannau o’r wlad i flasu bwyd a diod rhanbarthol, profi lletygarwch cynnes, ymweld â mannau nodedig adnabyddus, trysorau cudd a chymeriadau lleol; gyda’r nod o ysbrydoli a difyrru ymwelwyr o adref ac o bedwar ban byd yn ystod Blwyddyn Llwybrau a thu hwnt.
Trwy gydol y gyfres, cewch glywed y digrifwyr yn rhoi cynnig ar ioga ar fwrdd padlo yng nghanol llyn ger Cei Newydd; yn ymgymryd â gwifren wib ar draws chwarel lechi ym Mlaenau Ffestiniog; yn profi Clwb Pêl-droed Wrecsam yn sicrhau buddugoliaeth wych ar y Cae Ras; ac yn taflu eu hunain yn anhunanol i sesiwn blasu jin yn Sir Gaerfyrddin.
‘Ymladd dros Gymru i’r pen’
“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Pod of Wales,” meddai Kiri Pritchard-McLean.
“Dwi’n meddwl mai Cymru yw’r wlad orau yn y byd yn barod ond gan ein bod ni wedi bod yn teithio o gwmpas ac yn darganfod faint o lefydd bendigedig sydd ganddi i’w cynnig, rydw i’n hyderus nawr y byddwn i’n ymladd drosti i’r pen.
“Dwi hefyd yn cael teithio’r wlad gyda Chymraes hynod ddoniol – am freuddwydiol!
“Dw i dal yn flin na wnaethon nhw adael i mi alw’r podlediad yn Thelma a Llouise serch hynny. Ond fe ddof dros hyn dwi’n siŵr!”
‘Ymwelydd yn fy ngwlad fy hun’
Mae Kiri Pritchard-McLean hefyd yn ddysgwr Cymraeg angerddol, a chydag anogaeth Esyllt Sears, bydd yn rhoi ei hiaith ar waith ar hyd y daith.
Daeth y digrifwyr yn ffrindiau wrth iddyn nhw berfformio mewn gigs comedi yng Nghymru a thu hwnt, a thrwy gariad tuag at eu mamwlad.
“Roeddwn i’n gwybod yn barod bod Cymru yn rhywbeth arbennig ond mae bod yn ymwelydd yn fy ngwlad fy hun yn gymaint o fraint ac mae wedi agor fy llygaid i gymaint nad oeddwn erioed wedi dod ar ei draws nac wedi meiddio ei archwilio o’r blaen,” meddai Esyllt Sears.
“Rydym yn bwyta, yn yfed, yn chwerthin ac yn siarad â chymaint o bobol angerddol ar hyd a lled y wlad yn y gobaith y gwnaiff ysbrydoli eraill i ddod a’i brofi drostynt eu hunain.
“Ychydig fel cŵn pan maen nhw’n gadael arogl i gŵn eraill ble bynnag maen nhw’n mynd – dwi’n hoffi meddwl taw dyna beth mae Kiri a fi’n ei wneud. Ond mewn ffordd ychydig glanach!”
Mae’r gyfres gyntaf yn archwilio’r lleoliadau canlynol ar draws chwe phennod:
· Wrecsam a Llangollen
· Portmeirion i Blaenau Ffestiniog
· Sir Gaerfyrddin
· Cwm Rhondda a Phontypridd
· Arfordir Ceredigion
· Cwm Elan a Mynyddoedd y Cambrian
Ac mae’r tair pennod gyntaf eisoes ar gael yma.
Dywedodd rheolwr twristiaeth Wrecsam, Joe Bickerton, a groesawodd y ddau ddigrifwr ar eu taith gyntaf:
“Roedd gwahodd Kiri ac Esyllt draw i Wrecsam a Llangollen yn bleser pur. Fe wnaeth y ddwy daflu goleuni ar pam fod yr ardal hon mor arbennig. Fe wnaethon nhw hefyd daflu eu hunain i mewn i benwythnos o archwilio ein diwylliant, siarad â busnesau lleol a gorffen gyda thaith gerdded a sgwrs wrth i ni ddringo’r uchelfannau i Gastell Dinas Bran. Mae’r sioe yn llawer mwy na phodlediad twristaidd nodweddiadol. Daeth y ddwy gyflwynwraig â hiwmor i’r recordiad a threulio amser y dod oddi ar y trac a darganfod yr ymdeimlad o gymuned yn ein hardal. Penwythnos da gyda dau lysgennad gwych dros Gymru!”
Tanysgrifiwch i Pod of Wales a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ar Instagram, Twitter, TikTok a Facebook.