Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Luned a Huw Aaron, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Plant a Phobol Ifanc gyda Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Dechrau gyda cherdd syml wnaeth y llyfr gyda Huw wedyn yn mynd ati i ddehongli’r geiriau’n weledol. Mae hi wastad yn braf cydweithio.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Yr ysgogiad bob tro ydi creu llyfrau sy’n hwyl i’r plant ac i’r oedolion sy’n eu darllen nhw’n uchel. Rydan ni eisiau i blant gael gwir fwynhad o lyfrau, a hynny o oedran cynnar.

Oes yna neges y llyfr?

Bachgen sydd eisiau bod yn bob math o bethau rhyfeddol sydd yn Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosorond erbyn y diwedd, mae’n derbyn pwy ydi o.  Neges gadarnhaol sydd yma i fod yn ni ein hun ac i dderbyn yr hyn ydym ni.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Gormod i’w henwi a bod yn onest, ond fel gŵr a gwraig sy’n cydweithio o bryd i’w gilydd, mae llyfrau hwyliog Janet ac Allan Ahlberg yn sicr yn ysbrydoliaeth.

Gallwch ddarllen mwy am Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 23!