Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Peredur Glyn, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffuglen gyda Pumed Gainc y Mabinogi.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda
Cylch o straeon byrion ydy Pumed Gainc y Mabinogi. Mae’r straeon i gyd efo gwahanol brif gymeriadau, ond maen nhw’n plethu mewn i’w gilydd gan ddatgelu mwy am y fersiwn amgen yma o’r realiti dw i wedi’i greu. Yn y realiti yma, mae’r cymeriadau wedi sylwi bod yna bethau sy’n bodoli yn y byd sydd tu hwnt i’w dealltwriaeth nhw – ryw bwerau a chreaduriaid sy’n rhedeg pethau tu ôl i’r llen ac mae hyn yn arswydus i’r cymeriadau yn y straeon. Yn y bôn, be rydyn ni’n edrych arno ydy’r syniad bod y chwedlau sydd gennym ni, gan gynnwys straeon fel y Mabinogi a llenyddiaeth ganoloesol a thraddodiadol eraill, yn fersiynau o’r gwirionedd ond weithiau’u bod nhw’n fersiynau sydd wedi cael eu tacluso neu eu gwneud yn llai arswydus dros amser. Mae’n troi allan, er enghraifft, bod Pedair Cainc y Mabinogi yn cynrychioli pobol neu greaduriaid oedd yn arfer bodoli ers talwm, ond eu bod nhw’n llawer mwy arswydus nag ydyn ni’n ddisgwyl. Mae’r straeon am wahanol bobol yn delio efo’r ddealltwriaeth yma o’r darganfyddiadau, a’r helbulon a’r anturiaeth maen nhw’n cael eu hunain ynddyn nhw. Maen nhw’n straeon cyffrous, anturus, ac maen nhw i gyd reit wahanol – mae yna rai’n cynnwys drama, rhai’n cynnwys pathos a hiwmor. Roedd o’n gyfle i fi ddweud llawer o straeon cysylltiedig, ond gwahanol, o fewn yr un bydysawd.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?
Fe wnaeth y syniad ddod i mi o beth fysa’n digwydd tasa’n chwedlau ni yn wir, neu ran ohonyn nhw’n wir. Mae’r syniadau’n dod yn bennaf o’m gwybodaeth a’n mwynhad i o chwedloniaeth Gymraeg a llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg, yn enwedig y Mabinogion, a hefyd fy mwynhad i o lenyddiaeth Saesneg sydd yn y genre arswyd cosmig. Yn fras, mae o’n genre lle mae’r arswyd a’r tensiwn yn dod o bobol yn sylweddoli pa mor ddi-bwer ydyn nhw. Yn hytrach na meddwl mai dynoliaeth ydy canolbwynt y bydysawd, maen nhw’n sylwi bod yna bethau llawer mwy pwerus na nhw ac, mewn ffordd, bod dynoliaeth yn llawer mwy di-allu ynghanol y bydysawd i gyd. Y rheswm dw i’n licio’r llenyddiaeth yna ydy achos fy mod i’n meddwl bod o’n rhywbeth mae llawer ohonom ni fel pobol yn cael pryder ohono fo – ein bod ni ddim yn meddwl ein bod ni’n alluog, ein bod ni ddim yn teimlo ein bod ni’n gallu cyflawni pethau, bod yna bwerau sy’n gwneud pethau dydyn ni ddim yn eu deall na’u derbyn. I raddau, mae hynny’n wir, ond i raddau mae gennym ni’r gallu i ddewis ein trywydd ein hunain. Pan ti’n tynnu’r gallu yna oddi ar gymeriadau, mae’n creu sefyllfaoedd reit frawychus lle maen nhw’n gorfod ymladd am eu bywydau, a’u pwyll weithiau.
Oes yna neges y llyfr?
Y mathau o themâu sy’n dod fyny eto ac eto yn Y Pumed Gainc ydy pethau’n ymwneud â’r tyndra rhwng traddodiad a’r byd modern. Mae yna gymeriadau sy’n sylweddoli bod pethau sy’n Gymreig, fel Cerrig yr Orsedd neu’r delyn deires neu lawysgrifen hynafol, efallai’n bethau sydd heb hyd yn oed ddod o’r byd yma neu’r realiti yma – felly faint o’n traddodiadau Cymreig neu Gymraeg ni sydd wedi’u seilio ar bethau goruwchnaturiol?
Ar lefel mwy cyffredinol, dw i’n licio sôn am draddodiad a gwneud i bobol feddwl beth ydy bod yn Gymry yn y byd heddiw. Ydy o’n golygu siarad Cymraeg, ydy o’n golygu bod o Gymru, ydy o’n golygu glynu at draddodiadau neu greu traddodiadau newydd? Mae’r cymeriadau’n ymladd efo’r penderfyniadau o beth ydyn nhw a beth ydy bod yn Gymry a pherthyn i Gymru heddiw – mae hynna’n rhywbeth sy’n berthnasol iawn i lawer o’r straeon.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?
Wrth gwrs, mae’r llenyddiaeth hanesyddol Gymraeg ffuglennol fel y Mabinogi yn amlwg wedi dylanwadu’n uniongyrchol mewn rhai ffyrdd ar y straeon. Dw i wedi cael fy nylanwadu o safbwynt yr arswyd gan waith H P Lovecraft, mae Lovecraft yn awdur o ryw ganrif yn ôl yn America wnaeth yn sicr boblogeiddio’r genre arswyd cosmig yn y byd modern. Mae ei lenyddiaeth, er bod yna elfennau problematig ynddo fo, wedi ysbrydoli fi o ran trio creu fersiwn fodern Gymreig o’r genre. J R R Tolkein hefyd, mae ei sgrifennu a’i holl lyfrau wedi fy nylanwadu ers oeddwn i’n blentyn – yn enwedig y ffordd mae o’n creu bydoedd newydd efo ieithoedd newydd a chlymu popeth mewn i hanesion cymhleth y byd mae o’n greu. Er bod fy straeon i’n digwydd yng Nghymru heddiw, fel arfer, mae o’n fersiwn gwahanol neu amgen o Gymru. I raddau, dw i’n cael fy nylanwadu gan Ian Fleming, sef creawdwr llyfrau James Bond. Mi oedd gan Fleming y gallu i sgrifennu mewn ffordd effeithlon, gyffrous oedd yn cadw’r tudalennau’n troi, ac mae hwnna wastad wedi gwneud argraff arna i. Does dim angen stori hir, hir er mwyn cael cyffro. Mewn ffordd, beth oeddwn i’n trio’i wneud yn y straeon yn Y Pumed Gainc oedd crynhoi’r cyffro mewn i nifer fechan o dudalennau er mwyn gwneud iddo lifo’n dda. Mae’r awduron yna, yn eu ffyrdd, wedi fy nylanwadu i efo’r llyfr yma a’r ffordd dw i’n sgrifennu heddiw.