Eleni, mae Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi trawsnewid ac ailddychmygu teimlad, awyrgylch a strwythur prif seremonïau’r Eisteddfod.
Ym mis Ebrill, daeth tîm celfyddydol at ei gilydd gyda thudalen wag i drafod, rhannu profiadau a llunio strwythur newydd prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd.
Ymysg y tîm roedd sgriptwyr, cerddorion, cynllunwyr, comediwyr, coreograffydd a chyn-enillwyr – â’r oll yn rhannu syniadau a phrofiadau personol i lunio ac arwain seremonïau’r dyfodol.
Penderfynodd y criw – Efa Dafydd, Branwen Davies, Elan Elidyr, Priya Hall, Meilir Ioan, Mared Llywelyn, Llio Maddocks, Leila Navabi, Osian Wyn Owen, a Lewys Wyn – gymryd ysbrydoliaeth o chwedl Taliesin, gan ddefnyddio’r syniad fod person yn cael ei drawsnewid wedi iddyn nhw ennill y brif wobr yn eu maes.
‘Chwe Awen’
Mae’r chwe seremoni yn cynrychioli chwe Awen.
Ar gyfer pob seremoni, bydd yr Awen honno yn dod yn fyw mewn ffurf cymeriad o chwedl Taliesin.
Wedi eu gwisgo mewn gwisg drawiadol wedi ei gynllunio gan y dylunydd Efa Dyfan, bydd y chwe cymeriad – wedi eu chwarae gan aelodau presennol o gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd – yn dechrau pob seremoni wedi eu gwasgaru ar hyd y Maes.
Wrth i amser y seremoni agosáu, bydd y chwe chymeriad yn cerdded tuag at y llwyfan gan ddenu cynulleidfa i’w dilyn.
Bydd un Awen yn cymryd yr awenau bob dydd ac yn cynrychioli cystadleuaeth benodol.
Yr Awen benodol fydd yn tywys y beirniad i’r llwyfan i draddodi.
Wedi’r traddodi, bydd y rhai ddaeth yn ail ac yn drydydd yn cael eu henwi.
Bydd yr enillydd, fydd yn rhan o’r gynulleidfa, yn cael eu gwahodd i gamu i’r golau wrth i olau ddisgleirio ar ganol y llawr a bydd Awen y dydd yn mynd i gyfarch yr enillydd.
I gloi’r seremoni, bydd cerdd gyfarch benodol i’r enillydd yn cael ei rannu gan y beirniad cyn i’r enillydd gael eu tywys gan y chwe Awen drwy’r gynulleidfa i gerddoriaeth yr arwydd gân ‘Sain Cerdd a Chân’.
Bydd y Prif Seremonïau yn digwydd bob dydd am 2 o’r gloch, a hynny ar Lwyfan y Cyfrwy.
Dydd Llun: Y Fedal Gyfansoddi
Dydd Mawrth: Medal y Dysgwyr a Bobi Jones
Dydd Mercher: Y Fedal Ddrama
Dydd Iau: Y Cadeirio
Dydd Gwener: Y Coroni
Dydd Sadwrn: Y Fedal a’r Ysgoloriaeth Gelf