Mae Alex Jones, cyflwynwraig The One Show ar y BBC, wedi dweud wrth golwg360 nad yw hi’n credu y byddai hi wedi mentro i’r byd darlledu oni bai ei bod hi wedi cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn blentyn.
Y gyflwynwraig leol yw Llywydd y Dydd cyntaf Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, ac mae hi wedi teithio i’r maes yn Llanymddyfri o’i chartref yn Llundain gyda’i theulu er mwyn cwblhau ei dyletswyddau heddiw (dydd Llun, Mai 29).
Fel miloedd o blant Cymru, mae’r Urdd wedi chwarae rhan arbennig yn ei bywyd.
A hithau’n blentyn swil, roedd hi wrth ei bodd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, a chafodd ei blas cyntaf ar gystadlu yn bump oed.
Roedd hi wrth ei bodd yn llefaru unigol, meddai wrth gynhadledd y wasg, ac yn cofio llefaru Shep y Ci, ond roedd hi hefyd yn cystadlu gyda’r côr, y gân actol a’r dawnsio disgo.
Cyflwynodd hi sioe agoriadol Eisteddfod yr Urdd Abertawe yn 2011.
Atgofion o’r Urdd yn blentyn
Fel cenedlaethau o blant yng Nghymru, dywed Alex Jones fod ganddi gymaint o atgofion melys o Eisteddfod yr Urdd pan oedd hithau’n blentyn, a bod cael bod yn Llywydd y Dydd “yn golygu shwd gymaint”.
“Mae pawb yn dweud bod e’n fraint ac anrhydedd, wel mae hwn yn fraint ac yn anrhydedd i fi,” meddai wrth golwg360.
“Mae cael dod ’nôl i ardal sydd mor gyfarwydd i fi, rhywle sy’n lleol, a chael arwain yr Eisteddfod heddi’n ffantastig.
“A dod ’nôl fel mam hefyd, mam i blant sy’n byw yn Llundain a ddim yn deall yn iawn beth yw’r digwyddiad unigryw yma sydd gyda ni, rhywbeth sy’n rhan mor fawr o’n hanes i.
“Felly dw i’n gobeithio awn ni oddi yma heddiw wedi joio, ond gyda phawb yn deall beth yw’r Eisteddfod yma dw i wedi bod yn siarad amdano fe ers blynyddoedd!
“Yr Eisteddfod i fi yw, wrth gwrs y cystadlu, gweithio’n galed ac wedyn cystadlu, gobeithio ennill ond nid hynny sy’n bwysig.
“Dw i’n meddwl taw yr ochr gymdeithasol ro’n i’n joio, treulio amser gyda ffrindiau, gweld hen ffrindiau, gwersylla pan oedd yr Eisteddfod yn y gogledd ac ati, y rhieni i gyd wedyn yn cael barbeciw tra bod y plant yn rhedeg fel pethau gwyllt rownd y maes carafanau, jyst lot, lot o sbort.
“Fi’n cofio pan o’n i’n fach, a sa i’n gwybod os yw e dal yr un peth, ond roedd pebyll gyda’r BBC a HTV ac S4C a byddech chi’n cael y freebies yma i gyd.
“Ro’n i jyst yn joio, y maes mor ffantastig, a pherfformio ar y llwyfan, felly mae’r holl beth i fi yn dod ’nôl â lot o atgofion melys iawn.”
‘Rhywbeth i’w fwynhau’
Er ei bod hi wedi mynd yn hen law ar gystadlu yn y pen draw, dywed Alex Jones y byddai’r nerfau’n mynd yn drech na hi ar adegau.
“Ro’n i’n arfer mynd mor nerfus, ro’n i bron â bod yn sic!” meddai.
“Felly cofiwch fod e’n rywbeth i’w fwynhau, a phawb i drial eu gorau wrth gwrs, ond i gofio taw’r profiad sy’n bwysig, achos fi’n credu bod y profiad fan hyn o sefyll ar y llwyfan, efallai am y tro cyntaf ar y teledu i sawl person hefyd, yn rywbeth gallith arwain at rywbeth mwy.
“Sa i’n credu fydden i yn y byd darlledu oni bai bo fi wedi cystadlu fel plentyn, achos ffordd arall, ro’n i mor swil, no way fydden i wedi mynd ar ben y llwyfan.
“Felly fi’n credu bod e’n bwysig cofio taw’r profiad o fod yma sy’n hollbwysig.”
Mae hi’n benderfynol o fwynhau’r profiad o fod yn Llywydd y Dydd hefyd, ac yn edrych ymlaen at ambell ddyletswydd cyn mwynhau’r hyn sydd gan y maes i’w gynnig.
“Mae lot o jobs i’w gwneud fel Llywydd y Dydd – mae eisiau agor y Babell Gelf, wedyn mae eisiau mynd i gwrdd â phobol i gael cinio,” meddai.
“Fi mo’yn gweld y nai yn gwneud y gân actol ac felly dw i’n gobeithio bod hynny mewn yn yr amserlen yn rhywle.
“Ond jyst joio gyda’r plant a rhoi’r cyfle iddyn nhw ddeall beth yw’r Eisteddfod.”
Magu plant Cymraeg yn Llundain
A hithau wedi bod yn magu ei theulu yn Llundain yn sgil ei gwaith darlledu, ac fel gwraig i un sy’n hanu o Seland Newydd, dywed ei bod hi’n bwysig iddi bod ei phlant yn deall pwysigrwydd Cymru, y Gymraeg a’r Eisteddfod.
“Beth ydyn ni’n trio’i wneud, er bo ni’n byw yn Llundain, rydyn ni’n dod ’nôl yn aml iawn ac yn cael bron bob gwyliau yma yng Nghymru, naill ai yn y Gŵyr neu yn yr ardal yma,” meddai.
“Mae’r plant, er bo nhw ddim yn byw dydd i ddydd yng Nghymru, yn deall yn iawn beth yw Cymru, beth yw’r iaith.
“Mae Mam-gu a Tad-cu, mam a dad fi yn siarad Cymraeg â’r plant i gyd, dw i’n siarad Cymraeg gyda nhw, ac er bo nhw’n ateb yn Saesneg maen nhw’n deall pob gair ond mae’n cymryd lot o ymdrech, felly dwi’n meddwl mai dyna sydd wrth wraidd y peth.
“Os ydyn ni’n mo’yn i’r plant ddeall a gwerthfawrogi’n diwylliant ni, mae rhaid dodi’r ymdrech mewn a dod â nhw adre’ a dod â nhw i’r Steddfod.”