Mae Sir Gâr gyfan yn falch iawn o gael croesawu plant, pobol ifanc, teuluoedd a ffrindiau o bob cwr o Gymru i Lanymddyfri ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, yn ôl Cyngor Sir Gâr.

Ar ddiwrnod cynta’r Eisteddfod heddiw (dydd Llun, Mai 29), dywed y Cyngor Sir eu bod nhw’n “hynod hapus fod presenoldeb amlwg” ganddyn nhw ar y Maes, ac mae’r arlwy heddiw’n cynnwys Ffitrwydd Byw gan Actif Sir Gâr, sioe ryngweithiol i blant gyda Mewn Cymeriad, a pherfformiad ieuenctid gan rai o ysgolion Sir Gâr.

100% Sir Gâr a chefnogi busnesau lleol fydd thema’r dydd ar gyfer dydd Mawrth (Mai 30).

Bydd eu stondin hefyd yn canolbwyntio ar y gwahanol brosiectau a mentrau ledled y sir sy’n cael eu cefnogi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gall ymwelwyr hefyd ddysgu mwy am ddatblygiad Pentre Awel yn Llynnoedd Delta yn Llanelli, sy’n ceisio gwella iechyd a llesiant pobol ar draws y rhanbarth.

Ddydd Mercher (Mai 31), bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn hyrwyddo eu Prosiect Carbon Zero Sir Gâr, sy’n hoelio sylw ar eu gweledigaeth i fod yn awdurdod sero net ac ar y camau y gall pawb eu cymryd o ddydd i ddydd i helpu i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi newid yn yr hinsawdd.

Ddydd Iau (Mehefin 1), bydd y Cyngor yn lansio eu “strategaeth uchelgeisiol” ar gyfer Hyrwyddo’r Gymraeg, sy’n pennu cynlluniau’r Cyngor i gymryd camau cadarn a hyderus i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a chynnal balchder, defnydd, a hyder trigolion yn y Gymraeg.

Bydd y digwyddiad lansio yn cael ei gadeirio gan Meri Huws, cyn-Gomisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Fforwm Strategol y Gymraeg Sir Gaerfyrddin.

Gweithio yn Sir Gaerfyrddin yw thema dydd Gwener (Mehefin 2), gyda phwyslais penodol ar brosiect ‘Llwyddo’n Lleol’, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Arloesi Arfor 2050.

Nod rhaglen Arfor yw darparu amryw ymyraethau strategol er mwyn hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnes, a gwytnwch cymunedol, gan ffocysu ar y Gymraeg yn Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.

Wrth i Eisteddfod yr Urdd ddirwyn i ben ddydd Sadwrn (Mehefin 3), bydd y Cyngor Sir yn gwahodd pobol yn ôl i fwynhau gwyliau haf yn y sir.

Twristiaeth yn Sir Gâr fydd thema’r dydd ac fe fydd digon i’w gynnig i’r sawl sydd ar eu gwyliau, boed yn draethau, amgueddfeydd, llwybrau beicio a cherdded, neu’n theatrau, parciau gwledig a marchnadoedd.

‘Croeso cynnes i Sir Gâr!’

“Croeso cynnes i Sir Gâr!” meddai Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

“Anrhydedd yw cael cynnal Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanymddyfri, a chroesawu plant a phobol ifanc o bob rhan o Gymru wrth iddyn nhw gymryd rhan yn yr ŵyl unigryw ac arbennig hon.

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymfalchïo’n fawr yn ein cyfraniad ariannol a diwylliannol at Eisteddfod yr Urdd 2023.

“Rwy’n edrych ymlaen at yr wythnos sydd i ddod ac yn annog plant, pobol ifanc, teuluoedd a ffrindiau o bob ardal yn Sir Gâr i achub ar y cyfle i ymweld â’r Eisteddfod yn Llanymddyfri yr wythnos hon.

“Rwy’n blês iawn fod mynediad am ddim i deuluoedd sydd ar incwm isel, gan y bydd hynny’n rhoi cyfle i bob teulu a phlentyn yn Sir Gâr fwynhau’r profiad sydd gan Eisteddfod yr Urdd i’w gynnig.”