Gwydion Rhys yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, wrth iddo gipio’r Fedal Gyfansoddi gyda ‘Pum Pedwarawd’.

Yn cystadlu dan y ffugenw ‘Tannau Perfedd’, nid dyma’r tro cyntaf i’r cyfansoddwr 20 oed o Rachub yn Nyffryn Ogwen gyrraedd tri uchaf y gystadleuaeth.

Eleni, caiff Medal Goffa Grace Williams ei rhoi gan Aelwyd Llyn y Fan.

Tasg y gystadleuaeth oedd cyfansoddi naill ai cylch o ganeuon, rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd; cyfansoddiad i un neu ddau offeryn neu gyfansoddiad i ensemble offerynnol.

“Mae ennill y Fedal Gyfansoddi yn rhoi boddhad mawr i mi o wybod bod pobol yn gwerthfawrogi fy ngherddoriaeth,” meddai’r enillydd.

“Dw i wedi cyrraedd y tri uchaf yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi deirgwaith o’r blaen, felly mae’r neges i unrhyw gyfansoddwr ifanc yn glir – daliwch ati i greu!”

Daeth naw cyfansoddiad i law’r beirniaid yn y gystadleuaeth eleni, ond gwnaeth ‘Pum Pedwarawd’ gryn argraff ar Dr Owain Llwyd a Dr Daniel Bickerton.

“Dyma gyfansoddiad a chyfansoddwr ifanc, hyderus, modern ac o safon uchel iawn sy’n llawn haeddu’r Fedal Gyfansoddi eleni,” meddai’r beirniaid.

“Yn wir, roedd y ddau feirniad yn unfrydol bod darganfod y llais ifanc yma, drwy’r brif gystadleuaeth bwysig hon, yn hynod o gyffrous ar gyfer dyfodol a chenhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr Cymru.

“O’r defnydd o dechnegau effeithiol hyd ddeialog positif parhaol yr offerynnau, roedd Tannau Perfedd wedi ein swyno o’r nodyn cyntaf hyd i’r diwedd ac yn ein gadael ni yn awchu i glywed mwy!

“Tu hwnt i’r ymwybyddiaeth gref o offeryniaeth a thechneg sy’n amlwg yn y gwaith, crefft fwyaf y cyfansoddwr yw bod pob symudiad yn gweithio fel uned er mwyn creu cyfanwaith, pendant, cryf a synhwyrol.”

Pwy yw Gwydion Rhys?

Mae Gwydion Rhys yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda ac ar fin cwblhau ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ble mae’n astudio Cyfansoddi gydag Alison Kay.

Cyn mynd i’r Coleg yn Llundain, cafodd wersi cerddorol yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon ac yna yn adran iau Coleg Cerdd y Gogledd, Manceinion, lle cafodd wersi cyfansoddi gyda Joshua Brown.

Yn chwarae’r piano ers yn bump oed a’r cello ers yn saith, mae wedi bod yn gystadleuydd cyson yn Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd.

Er mai cyfansoddi sy’n mynd â’i fryd bellach, mae’n dal i fwynhau cyd-chwarae, ac mae’n aelod brwd o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Aeth yr ail wobr i David Ingham o Abertawe am ei gyfansoddiad ar gyfer wythawd chwythbrennau o’r enw ‘Branwen, y Ddrudwen, a’r Môr’.

Eleni, mae’r drydedd wobr yn mynd draw i’r Unol Daleithiau, i Katia Rumin o Stockbridge, Massachussetts am ei chyfansoddiad ‘Trawsplygainiadau’.

Am y tro cyntaf eleni, roedd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn ystod seremoni y Prif Gyfansoddwr ar Lwyfan y Cyfrwy.