Darllenais â diddordeb golofn ddiweddar Gwilym Dwyfor, lle bu’n synfyfyrio am “fwy a fwy o Saesneg ar Pobol y Cwm”. Mae colofnydd ‘Ar y soffa’ yn cynnig crynodeb trwyadl (a tempting o ddiddorol) o’r cymeriadau dan sylw, gan gynnwys cwpwl o Saeson posh oedd eisiau prynu tŷ haf, a ffoadur Cwrdaidd o’r enw Alaz. Mae’n pwyso a mesur, mewn ffordd deg hyd y gwelaf i, rhwng yr angen am gyd-destun a’r mympwyol.

Ond y cymeriad newydd Cheryl berodd y mwyaf o rwystredigaeth iddo, a’r ffaith ei bod hi’n “pupuro’i brawddegau gyda geiriau Saesneg mewn modd hynod annaturiol”. Mae Gwilym yn cwestiynu’r portread hyn o gymeriad symudodd o Wrecsam i Gwm Deri, gan ddweud nad ydi hi ddim yn dafodiaith Wrecsam y mae o’n ei hadnabod.

Fel un o Wrecsam fy hun, yn amlwg roeddwn yn chwilfrydig, felly es ati i ymchwilio’r mater ymhellach trwy fy nheledu clyfar.

Cheryl a’i siarad sglodis

Mae Cheryl yn cyrraedd tŷ Gaynor, ei chwaer goll, ar ddiwedd pennod Ebrill 27. Mae ei llais hi’n un traw uchel, trwynol, cwynfanllyd… ac yn reit debyg i fy llais i! Mae yna dinc gyfarwydd iddi hefyd, ryw siarprwydd i’r ynganiad, gyda llefariaid byr… fel fysech yn ei glywed o amgylch ardal Wrecsam.

Ym mhennod Mai 2, cawn glywed y chwiorydd yn sgwrsio am eu teulu, a chlywon ni fod Cheryl wedi dŵad i Gwm Deri o Wrecsam. Cytunaf fod ei hiaith lafar yn llawn geiriau Saesneg, ac hefyd amrywiaeth mawr mewn traw wrth iddi or-ddweud pethau… fel fydd y sawl sydd wedi fy nghlywed i’n ei wneud ar Radio Cymru yn ei wybod!

Yna, ym mhennod Mai 3, mae ei hiaith hi bach yn rhy posh a Chymreig, a dweud y gwir, er mae hi’n siarad hefo posh-boy Hywel Llywelyn, felly efallai ei bod hi’n codi’i gêm hi ‘chydig? Rydyn ni hefyd yn ei chlywed hi’n siarad ar y ffôn symudol hefo Dave, a hynny trwy gyfrwng y Saesneg. Mae hyn yn gliw pwysig.

Er fod yna bocedi bach o amgylch Wrecsam, lle mae’r gymuned yn siarad Cymraeg yn beunyddiol, a honno’n Gymraeg raenus, gyfoethog, pitw iawn yw’r cyfle i siarad Cymraeg i ran helaeth y boblogaeth – sef yr angen ENFAWR i gadw’r Saith Seren yn agored.

Mi glywech chi ‘Not since school’ llond y lle, ac oni bai bod rhywun yn mynd i’r capel neu’r eglwys, neu’n aelod o glybiau hobi Cymraeg, prin iawn fyddai’r cyfle. Ac os yw Cheryl ’nôl a ’mlaen rhwng sgyrsiau hefo Dave, yna bydd ieithoedd ei hymennydd yn bendramwnwgl.

Mae’r drafodaeth dafodieithol yma yn fy atgoffa o erthygl Iolo Madoc-Jones yn trafod ‘Cymraeg siop sglodion’, ac fy ymateb i mewn cerdd gafodd ei chyhoeddi yn Rhifyn 11 o’r cyfnodolyn Fahmidan.

Nid pawb sy’n siglo ’nôl a ’mlaen rhwng ieithoedd yn llyfn, yn enwedig os taw dim ond yn achlysurol y cân nhw’r cyfle i siarad Cymraeg… ac nid pawb sy’n medru siarad Cymraeg raenus eniwê.

Tafodieithoedd Wrecsam yn y ’90au a nawr

Cefais fy ngeni a fy magu yn Wrecsam, a mynychais Ysgol Bodhyfryd ac yna Ysgol Morgan Llwyd. Saesneg oedd iaith buarthau a choridorau’r ysgolion hyn. Saesneg neu Wenglish, gan ein bod ni’n pupuro brawddegau gyda geiriau Saesneg, mewn modd hynod ryfeddol, nid annhebyg i’r dafodiaith Nadsat, yn ei chyd-destun dra lleol.

Cafodd y dafodiaith hon ei dal yn berffaith gan Aled ‘O’r Gororau’ Lewis Evans (yr enw y derbyniwyd o i’r orsedd hefo fo) yn ei gerdd wych ‘Over the llestri’:

Pan ddarllenais y gerdd hon am y tro cyntaf, teimlais mor ‘seen’! Roedd hi fel adlais o fy mhlentyndod. Ond y nawdegau oedd hynny, wrth gwrs. Ydy pethau wedi newid, tybed?

Er nad wyf yn berchen tŷ yn Wrecsam, rwy’n ‘work, rest, and play’ ene, ys dywedodd y Cyngor yn eu ceisiadau Dinas diweddar. Ac o be’ dwi’n clywed, tydy tafodiaith y sawl sydd ddim o’r pocedi bach Cymreig heb newid ryw lawer.

Yn wir, yn ddiweddar, fues i hefo grŵp o blant yr ardal, ac yn rhyfeddu wrth wrando arnyn nhw’n gofyn eu cwestiynau clyfar. Roedden nhw’n cymysgu’r ieithoedd mewn ffordd ryfeddol, ac yn wir mewn modd arloesol oedd yn fy atgoffa o erthygl wych Genie Giaimo.

Fi a Pobol y Cwm

Mae gan Cheryl gyflwr genetig prin, a hefyd delwedd corff tebyg i fy un i cyn i mi dadbigmentio; hefo’i chrys pêl-droed Wrecsam, a thafodiaith ‘Over the llestri’, dwi’n teimlo’n ‘seen’ unwaith eto, a hynny ar raglen S4C. Da o beth yw hynny.

Rwy’ wedi mwynhau archwilio’r mater hyn yn arw, ac wedi cofio faint roeddwn yn caru gwatsiad Pobol y Cwm!

A nawr fy mod wedi darganfod sut i’w gwylio ar yr iPad, medraf ei gwylio wrth olchi’r llestri (yn hytrach na bopio i Elvis a Cher!).

Yr unig gwestiwn sydd gen i bellach yw: Faint o weithiau mae Hywel Llywelyn wedi bod yn briod?!