Mae colofnydd radio a theledu cylchgrawn Golwg wedi bod ar Radio Cymru yn trafod ei golofn ddiweddaraf. Felly dyma godi’r Wal Dalu ar safbwynt Gwilym Dwyfor, i bawb gael gweld beth sydd dan sylw…

Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i’n feirniadol o sgets Pobol y Cwm a oedd yn rhan o ddathliadau S4C yn ddeugain oed. Roedd hi’n llawn Saesneg a chymeriadau Casualty ac yn ffordd od iawn o nodi pen-blwydd y sianel deledu Gymraeg y brwydrodd cymaint amdani.

Ers hynny, dw i wedi sylwi ar fwy a mwy o Saesneg yng Nghwmderi. Boed yn giangstars o Newcastle, yn gwpl o Saeson posh eisiau prynu tŷ haf neu’n ffoaduriaid Cwrdaidd.

Cyd-destun ydi bob dim ynde. Mae rhywun yn deall bod angen ieithoedd eraill o dro i dro i gynnal naws naturiolaidd yr holl beth. Wedi’r cwbl, byddai’n anodd gwneud stori am fygythiad ieithyddol ail gartrefi, heb ddefnyddio iaith y bygythiad hwnnw. A byddai hi braidd yn far fetched (sbïwch, dw i wrthi rŵan) disgwyl i bob giangstar o Newcastle siarad Cymraeg fel Gary Monk!

Roedd stori Alaz yn ffoi o Gwrdistan i geisio lloches yn y Cwm yn un ddifyr a phwysig i’w hadrodd ac mae’n eithaf naturiol y byddai ffoadur i dde orllewin Cymru’n dysgu’r Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg. Wrth gwrs, wrth i amser fynd rhagddo, roedd o’n dysgu Saesneg yn dipyn cynt ac mae o bellach wedi gadael am Lundain.

Ond cyn i’r lle droi’n geto Cymraeg am yn rhy hir, mae cymeriad di-Gymraeg arall wedi cyrraedd yr wythnos diwethaf. Maya Cooper yw fferyllydd newydd Cwmderi. Mae hi’n ddyddiau cynnar ond yr awgrym o’i hymddangosiad cyntaf oedd y bydd y ferch ag acen Lerpwl yn gwneud ymdrech gyda’r Gymraeg. Ac yn sicr, mae cyfle yma i wneud rhywbeth reit ddiddorol, pe bai’r gwylwyr yn gallu dilyn taith cymeriad yn dysgu’r iaith. Fel arall, rhaid gofyn beth yw’r pwynt achos does dim rheswm amlwg pam na allai fferyllydd newydd i ardal Gymraeg ei hiaith fod wedi bod yn gymeriad sydd yn siarad Cymraeg. Tybed a oes ambell actor Cymraeg di-waith yn meddwl yr un peth?

Wenglish hynod annaturiol

Yn eironig braidd, y newydd-ddyfodiad mwyaf rhwystredig yw’r un cymeriad newydd sydd yn siarad Cymraeg, Cheryl, chwaer goll Gaynor. Wrecsam ydi bob dim wedi mynd ynde ac yn reidio’n llon ar y lori lwyddiant honno y cyrhaeddodd Cheryl, yn siarad rhyw fersiwn cwbl newydd i mi o Wenglish! Am ryw reswm – am ei bod hi’n dod o’r gogledd ddwyrain dw i’n cymryd – rydan ni fod i goelio ei bod hi’n pupuro’i brawddegau gyda geiriau Saesneg mewn modd hynod annaturiol. A’i ddim mor bell â dweud fod yr acen yn sarhad, ond dydi hi ddim yn dafodiaith Wrecsam yr ydw i yn ei hadnabod.

Bydd gwylwyr ffyddlon y gyfres wedi hen arfer â Kelly a’i iaith gwbl… sut ddwedwn ni… unigryw. Ond wrth gwrs, nid fel yna mae Cymry Cymraeg Merthyr yn siarad mewn gwirionedd. Does yna neb yn siarad fel yna! Nid yw tafodiaith frodorol y Cwm hyd yn oed yn un gwbl naturiol. Rhaid cofio mai darn o ffuglen sydd yma ac efallai y daw rhywun i arfer gyda’r cymeriadau newydd hyn dros amser, fel y gwnaethom gyda’r chwedlonol Kelly.

Yn unigol, gellid cyfiawnhau pob un o’r cymeriadau yma, ond gyda’i gilydd, maent yn cyfrannu tuag at ryw shifft ieithyddol ehangach yn y Cwm. A dydw i ddim yn gweld bai ar actorion neu gyfarwyddwyr neu sgriptwyr yn fan hyn, mae’n berffaith amlwg fod hon yn weledigaeth sydd yn dod o rywle uwch.

Rhaid gofyn y cwestiwn felly, beth yw pwrpas hyn i gyd? Mae yna rywun mewn siwt yn rhywle yn S4C neu’r BBC yn gwthio hyn, does bosib. Felly beth yw’r gôl yn y pen draw? Dw i’n adnabod digon o wylwyr di-Gymraeg sy’n gwylio’r omnibws ar ddydd Sul gydag is-deitlau pryn bynnag. Nid yw cynyddu’r Saesneg yn y ddeialog, dyweder o 5% i 10%, yn mynd i newid llawer ar eu profiad gwylio hwy, siawns?