Mae yna ambell beth annisgwyl yn digwydd yn y polau piniwn ar hyn o bryd – a sgôr y pleidiau fel petai’n symud ar wahân i’r farn ar rai o’r prif bynciau.

Cymerwch annibyniaeth. Yn yr Alban, er bod plaid genedlaethol yr SNP – prif bleidwyr annibyniaeth – yn mynd trwy gyfnod rhyfeddol o galed, mae’r gefnogaeth i Alban annibynnol yn cynnal.