Wrth i YesCymru gynnal rali yn Abertawe, roedd pwnc annibyniaeth yn ôl yn y gwynt. Ar nation.cymru, roedd Y Crafwr yn gweld penbleth i Brif Weinidog Cymru wrth i’r arweinydd Llafur Prydeinig, Keir Starmer, bwysleisio ei geidwadaeth…

“Gallwch ddychmygu Mark Drakeford yn wylo’n dawel tros ei gornfflêcs y bore yma wrth i’r ddealltwriaeth wawrio fod ei freuddwyd o fudiad Llafur yn rhychwantu’r Deyrnas Unedig gan wella bywydau’r mwyafrif yn diflannu gyda niwl y bore. Ychwanegu at ofidiau Llafur Cymru… y mae’r wybodaeth o’r arolygon barn a roddodd y fath hwb i’r werin bobol yn Abertawe. Mae’n ymddangos bod hanner sylfaen cefnogwyr Llafur Cymru bellach yn gyson o blaid annibyniaeth.”

Wrth i’r AS Llafur Mike Hedges, er hynny, sôn am broblemau economaidd annibyniaeth, roedd gan John Dixon ateb parod…

“Dylem ddechrau trwy dderbyn bod tri chanlyniad economaidd posib i annibyniaeth: mae’n gwella ein byd, mae’n gwneud pethau’n waeth, neu dyw e’n gwneud dim gwahaniaeth… Mae’r gwahaniaeth rhwng y deilliannau hyn yn dibynnu mwy ar bolisïau’r llywodraeth annibynnol nag ar ffaith annibyniaeth ei hun. Wedyn, mae’r cwestiwn yn un syml iawn – pwy ydyn ni’n ymddiried mwya’ ynddyn nhw i ddatrys y problemau sy’n ein hwynebu, ni neu rywun arall?” (borthlas.blogspot.com)

Sbardun pellach i’r syniad o chwalu’r Deyrnas Unedig oedd canlyniadau’r etholiadau cyngor yng Ngogledd Iwerddon gyda gweriniaethwyr Sinn Fein yn dod yn brif blaid, a blog The Red Flag yn darogan symudiad at uno’r ynys… a hwnnw’n methu…

“O ystyried y canlyniadau yma, dw i’n disgwyl yn bendant y bydd Sinn Fein yn dechrau ymgyrch fawr am refferendwm i adael y Deyrnas Unedig o fewn 10 mlynedd (mae ail-uno’n fater ar wahân a fyddai’n gofyn fwy na thebyg am refferendwm arall rhwng Gogledd a De)… [ond] yn bersonol, unwaith y bydd cenedlaetholwyr y gogledd yn deall y byddai ail-uno yn golygu colli llawer o swyddi sector cyhoeddus, y byddai llawer o wasanaethau sylfaenol cynghorau’n cael eu preifateiddio ac y bydden nhw’n dweud ta-ta wrth y Gwasanaeth Iechyd a symud at system y Weriniaeth o yswiriant iechyd preifat cydfuddiannol gorfodol, dw i’n amau’n fawr a fyddan nhw’n pleidleisio i adael y Deyrnas Unedig.” (thepeoplesflag.blogspot.com)

Ynghanol y trafod gwleidyddol, caled, roedd un digwyddiad yn ddigon i doddi calon newyddiadurwr – roedd dathlu diwrnod cenedlaethol Somaliland yn y Senedd, yn ôl Martin Shipton, yn gyfle i Gymru ddangos ei natur gynhwysol, braf. Fe ddyfynnodd eiriau Hasson Yusuf, 12 oed…

“Mae Somaliaid yn enwog am eu gwytnwch a’u cryfder yn wyneb caledi. Er ein bod wedi diodde’ blynyddoedd o ryfel cartref ac anawsterau, r’yn ni wedi llwyddo i godi uwchlaw’r sialensiau a dod trwyddi yn gryfach fyth. Mae bod yn Gymro, ar y llaw arall, yn golygu perthyn i wlad llawn chwedlau a straeon, gydag iaith a diwylliant unigryw i’w phobol. Mae’r Cymry’n enwog am eu cynhesrwydd, eu hiwmor a’u syniad cryf o hunaniaeth genedlaethol. Felly, beth yw ystyr bod yn Somaliad a Chymro? Mae’n golygu cael y gorau o’r ddau fyd. Mae’n golygu gallu tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog dwy genedl wahanol a dod â’r amrywiaeth a’r cyfoeth yna i mewn i’n bywydau pob dydd.” (nation.cymru)