Pleidiol wyf i’m gwlad?

Nid gymaint felly lawr ym Mae Caerdydd y dyddiau hyn.

Pwy sy’n cofio Dafydd Wigley, Ieuan Wyn Jones a Cynog Dafis yn rhoi’r gorau i’r hen San Steffan yna ac yn dod yn aelodau llawn amser o’r Cynlleiad nôl ar droad y ganrif?

Fe drodd y Cynlleiad yn Senedd Cymru ac mae ganddo fwy o bwerau nag erioed, ac eto mae ambell un eisiau troi am Lundain.

Y llynedd fe gafodd Rhun ap Iorwerth ei ddewis i geisio disodli’r Geidwades Virginia Crosbie ym Môn, a pe llwyddai mi fyddai yn rhoi’r gorau i fod yn Aelod o’r Senedd dros yr ynys yn y Bae.

“Mae cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd yn anrhydedd anferthol,” meddai Rhun, “ond wrth i’n senedd ni dyfu a magu statws, mae yn hollbwysig fod llais Môn a Chymru i’w glywed yn senedd Prydain.”

Mi fyddai rhai yn dweud fod Liz Saville eisoes yn gwneud joban reit dda o godi llais dros Gymru yn San Steffan, heb sôn am Ben Lake.

A rŵan fod Adam Price wedi talu’r pris am feth delio gydag Aflonyddwyr Rhywiol, Gwraig-Gasawyr a Bwlis ei Blaid, does bosib mai aros yn ei unfan fydd Rhun, a chael ei goroni yn Arweinydd Plaid Cymru…

Ond y sefyllfa wrth i gylchgrawn Golwg fynd i’r Wasg ddechrau’r wythnos oedd bod Rhun yn dal i freuddwydio am San Steffan.

Ac un arall sydd wedi cael ei digoni gan y bwrlwm yn y Bae yw Natasha Asghar.

Ar hyn o bryd mae hi’n Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru tros Ddwyrain De Cymru.

Ond ei breuddwyd yw cael sefyll dros y Ceidwadwyr yn y ras i fod yn Faer nesaf Llundain.

Fe gafodd ei hethol i’r Senedd yn 2021, ar ran y Torïaid.

Cyn hynny, roedd hi wedi sefyll etholiad ar ran Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent, adeg etholiadau’r Cynlleiad yn 2007.

Ond fe surodd ei pherthynas gyda’r Blaid pan wnaethon nhw wahardd ei thad, Mohammad Asghar, rhag ei chyflogi fel Swyddog y Wasg iddo.

Roedd Mohammad yn Aelod o’r Cynulliad/Senedd rhwng 2007-2020.

Ddechrau’r wythnos roedd Natasha am i bawb wybod ei bod wedi byw yn Llundain am yr un nifer o flynyddoedd ag y mae wedi byw yma yng Nghymru.

Ac mae trigolion o bob cwr o brifddinas Lloegr wedi bod yn “pwyso yn ysgafn” arni i ymuno â’r ras i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer Maerolyddiaeth Llundain.

Y Llafurwr Sadiq Khan yw’r Maer presennol ac mae yn bwriadu sefyll eto yn 2024.

Dim digon o athrawon i gyrraedd y miliwn

Mae “perygl difrifol” na fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, oherwydd prinder athrawon.

Dyna rybudd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru.

Daeth y pwyllgor i’r casgliad nad oes digon o staff i sicrhau’r twf angenrheidiol mewn ysgolion Cymraeg ac nad oes digon o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg.

Mae’r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru “fuddsoddi’n sylweddol” i sicrhau bod rhagor o athrawon, cymorthyddion a darlithwyr yn cofrestru ar y Cynllun Sabothol i wella’u Cymraeg.

‘Heb athro, heb ddim’ ynte Wali…