Yr wythnos hon, yr awdur Marlyn Samuel o Ynys Môn sy’n rhoi cyngor i ddynes sy’n poeni y bydd ymddeoliad ei gŵr yn rhoi straen ar eu priodas – ac yn newid ei bywyd cyfforddus hi…

Annwyl Marlyn,

Mae fy ngŵr ar fin ymddeol. Mae ei swydd wedi cymryd blaenoriaeth dros bopeth arall – gan gynnwys ein perthynas ni. Mae o wedi colli pen-blwyddi’r plant a fi sawl gwaith dros y blynyddoedd, a dw i’n ymwybodol hefyd ei fod wedi bod yn cael affêr gyda’i ysgrifenyddes. Dw i erioed wedi trafod hyn efo fo – haws cau llygaid na chau ceg. Mi wnes i ymddeol ddwy flynedd yn ôl ac mae gen i fywyd cymdeithasol digon braf. Mae fy ngŵr wedi dechrau sôn am “wneud pethau efo’n gilydd” unwaith fydd o wedi ymddeol ond dw i’n licio fy mywyd i fel mae o. Rydan ni, i bob pwrpas, wedi bod yn byw bywydau ar wahân ers blynyddoedd. Dw i’n poeni sut mae ei ymddeoliad am effeithio ar ein perthynas a fy mywyd i. Oes gynnoch chi unrhyw gyngor?

Er gwell ac er gwaeth mae ymddeoliad yn achosi newidiadau mewn priodas, ac mae unrhyw newid wastad yn gallu bod yn straen. Yn y sefyllfaoedd gorau, hyd yn oed, mae ymddeoliad yn gallu rhoi sialens a bod yn straen ar briodas mewn ffyrdd digon annisgwyl. Mae ymddeoliad yn gwyrdroi rwtîn dyddiol a gweithgareddau rhywun ben i waered.  Y pryder mwyaf – ar ôl materion ariannol – ydi sut mae ymddeoliad yn mynd i effeithio ar y briodas. Mae yna ambell i gwpwl yn ffeindio eu hunain efo partneriaid nad ydyn nhw prin yn eu hadnabod bellach, gan eu bod nhw wedi bod mor brysur yn canolbwyntio cymaint ar eu gwaith.

Rydych chi’n dweud fod swydd eich gŵr wedi cymryd blaenoriaeth dros bopeth arall ar hyd y blynyddoedd. Dydych chi ddim wedi crybwyll pa fath o swydd sydd gan eich gŵr. Ond dw i’n tybio fod ganddo swydd dda gyda chyflog teg. Mae yna ddwy ochr i bob stori, wrth gwrs, ac o safbwynt eich gŵr, efallai ei fod o’n teimlo ei fod o wedi gorfod blaenoriaethu ei swydd er mwyn rhoi’r gorau i’w deulu, sef cartref a bywyd cyfforddus. Er nad ydi hynny’n esgusodi’r ffaith ei fod o wedi colli sawl pen-blwydd, na’i affêr chwaith!

Ar hyd y blynyddoedd mi’r ydach chi wedi cau eich llygaid i’w ymddygiad a derbyn a bodloni ar y sefyllfa i raddau. Ond efo’i ymddeoliad ar y gorwel mae hynny fel petai wedi agor eich llygaid i sut mae pethau wedi bod ar hyd y blynyddoedd a hefyd, yn bwysicach, gwir stad eich perthynas chi.  Mae’n swnio i mi fel petai’r holl ddrwgdeimlad rydych chi wedi ei deimlo ynglŷn â’r sefyllfa ac sydd wedi bod yn rhyw fudferwi ar hyd y blynyddoedd, rŵan wedi cyrraedd ei benllanw. Tybed ydych chi hefyd, yn y bôn, yn gwarafun ei fod o’r diwedd yn fodlon rhoi amser i chi’ch dau ac i wneud pethau efo’ch gilydd, rhywbeth y dylai fod wedi’i wneud cyn hyn? Ond ydi dyhead eich gŵr i chi’ch dau  wneud pethau efo’ch gilydd ar ôl iddo ymddeol wedi dod yn rhy hwyr? Ydach chi eisiau treulio amser efo fo?

Pwy a ŵyr, efallai drwy dreulio mwy o amser efo’ch gilydd a gwneud pethau efo’ch gilydd, y daw hynny a chi’ch dau yn agosach unwaith eto. Haws cynnau tȃn ar hen aelwyd cofiwch. Wedi dweud hynny, mae’n swnio i mi eich bod chi’n berffaith fodlon a hapus efo’r status quo sy’n bodoli ar hyn o bryd.  Rydych chi’n cyfaddef fod gennych chi fywyd cymdeithasol braf a’ch bod chi’n byw bywyd ar wahân ers blynyddoedd.

Gwynebu’r gwirionedd

Y cwestiwn mawr, felly, ydi pam ydach chi’ch dau dal efo’ch gilydd? Ydach chi wirioneddol yn gweld dyfodol i chi’ch dau? Y gwir amdani ar hyn o bryd yw does yna fawr o berthynas rhyngoch chi, sy’n  sefyllfa drist. Heblaw byw dan yr un to, beth arall sydd gennych chi’n gyffredin? Ydach chi’ch dau dal yn mynd ar wyliau efo’ch gilydd tybed?

Rydych chi’n dweud nad ydych chi erioed wedi trafod y ffaith ei fod o wedi blaenoriaethu ei swydd drosoch chi a’r teulu na chwaith, trafod ei affêr. Haws cau llygaid na chau ceg, medda chi. Ond efallai fod yr amser wedi dod i chi wyntyllu hyn i gyd. Clirio’r aer fel petai. Efallai nad oes gan eich gŵr unrhyw syniad eich bod chi’n teimlo fel hyn ac y byddai’n dipyn o sioc iddo glywed ychydig o wirioneddau.

Mae yna gyfnod newydd o’ch blaenau. Mae yna gyfle rŵan i chi’ch dau weithio ar y briodas a gwneud eich perthynas yn flaenoriaeth, os mai dyna ydi’ch dyhead chi. Peidiwch â thrio achub y briodas am eich bod chi’n teimlo mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Gwnewch am eich bod chi eisiau bod efo’ch gilydd. Cofiwch taw dim rihyrsal ydi bywyd. Un cyfle mae rhywun yn ei gael ar yr hen fyd yma.