Gyda’r ymgyrch Ewro 2024 yn ail-ddechrau i dîm dynion Cymru mewn llai na mis, rydw i wedi bod yn cadw un llygad ar amgylchiadau rhai o’r chwaraewyr a fydd o bosib yn rhan o garfan Rob Page. A’r penwythnos yma, roedd yna sawl ymddangosiad arwyddocaol sy’n mynd i gymhlethu dewis y rheolwr ar gyfer y gemau yn erbyn Armenia a Thwrci.