Wrth imi ysgrifennu hyn mae’n ddiwrnod rhyfeddol o braf arall, yn 20°c – sydd nid ymhell o’m gallu i’w oddef. Fedra i ddim ymdopi â thymheredd llawer uwch na hyn, ac mae atgofion haf diwethaf pan oedd hi ymhell dros 30°c yn dal yn fyw yn y cof. Methu cysgu yn y nos, cuddio yn y dydd, gorfod disgwyl tan tua naw y nos i fynd â’r ci am dro. Dydi hyd yn oed gardd gwrw ddim yn apelgar iawn i mi pan fo hi felly. Dwi’n llechu yn y cysgodion, yn wyn fel y galchen, drwy ran helaeth o haf arferol, heb sôn