Sêr o fyd rygbi Cymru yw Llywyddion y Dydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin heddiw (dydd Mawrth, Mai 30).

Mae Wyn Jones, prop y tîm cenedlaethol, ar y Maes yn Llanymddyfri, ac mae’n un o dri Llywydd ar y cyd â Ken Owens a Nigel Owens.


Holi Wyn Jones

Wedi’i eni a’i fagu yn Llanymddyfri, mae Wyn Jones o stoc ffermio yn un o hoelion wyth rheng flaen y Scarlets ac yn chwarae’n rheolaidd dros Gymru.

Tra’n gwisgo lliwiau’r Scarlets mewn cyfres o berfformiadau trawiadol, cafodd ei alw i chwarae ym mhrofion haf Cymru yn 2017, lle enillodd ei gap cyntaf yn Auckland yn erbyn Tonga.

Yn aelod brwd o’r garfan enillodd deitl y Guinness PRO12 yn 2016-17, Wyn Jones oedd dewis cyntaf tîm Cymru i wisgo’r crys rhif un yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

Yn dilyn ei berfformiad rhagorol yn ystod gemau’r Chwe Gwlad yn 2021, cafodd alwad i fynd ar daith y Llewod i Dde Affrica, lle cafodd ei ddewis ar gyfer y gêm brawf olaf yn erbyn y Boks.

Beth yw dy hoff atgof o’r Urdd?

Fy hoff atgof yw ennill cystadleuaeth pêl droed yn Aberystwyth ac ymweld â Gwersyll yr Urdd, Llangrannog.

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?

Fe wnes i fwynhau cymryd rhan gydag Ysgol Capel Cynfab, Cynghordy ac er yn ysgol gynradd fach o ran nifer, cawsom brofiad o gystadlu a’r cyfle i fagu hunan hyder wrth berfformio o flaen cynulleidfa.

Beth, yn dy farn di, yw’r newid mwyaf am ŵyl Eisteddfod yr Urdd ers pan oeddet ti’n aelod a’r Eisteddfod heddiw?

Tair pabell yn lle un babell fawr, a phawb yn cael y cyfle i gystadlu ar lwyfan.

Pe baet ti’n aelod o’r Urdd heddiw, pa gyfleoedd hoffet ti fod yn rhan ohonyn nhw?

Byddwn wrth fy modd gyda’r ochr chwaraeon a’r cymdeithasu.

Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?

Teimlaf ei fod yn fraint ac anrhydedd i fod yn Lywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni gyda’r Eisteddfod mor agos i adref.

Beth fyddai dy brif gyngor i’r rhai sydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod wythnos yma?

Joiwch y profiad a cewch amdani!!


Holi Nigel Owens

Yn un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, Nigel Owens yw’r dyn cyntaf i fod yn agored hoyw ym maes rygbi proffesiynol.

Wedi’i eni a’i fagu mewn tŷ cyngor ym Mynyddcerrig yn Sir Gaerfyrddin, ac yn rhugl yn y Gymraeg, fe ddechreuodd ei daith fel dyfarnwr pan oedd yn 16 oed ar ôl i rywun ddweud wrtho nad oedd yn debygol o chwarae’n broffesiynol.

Dyfarnodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn 2005 rhwng Iwerddon a Japan yn Osaka, a’i gêm gyfan yng Nghwpan y Byd yn 2007 yn Ffrainc.

Wedi cystadlu yn Eisteddfodau Cylch yr Urdd yn blentyn, mae wedi bod yn gefnogol o’r Urdd erioed.

Yn Chwefror 2022, cefnogodd yr Urdd drwy lansio twrnament rygbi cenedlaethol saith bob ochr yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality.

Yn ystod y lawnsiad, cyhoeddodd y byddai elfen ryngwladol yn perthyn i’r gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed gydag 16 tîm o’r gwledydd sydd ynghlwm â’r Chwe Gwlad yn cymryd rhan.

Yn 2020, ar ôl cyrraedd y garreg filltir o fod y dyfarnwr cyntaf i ddyfarnu mewn 100 o gemau prawf, penderfynodd ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Heb os, uchafbwynt ei yrfa oedd dyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd 2015 rhwng Seland Newydd ac Awstralia yn Twickenham.

Yn ogystal â hyn, fe yw’r unig ddyfarnwr erioed i gael ei benodi i ddyfarnu tair gêm derfynol Cwpan Heineken yn olynol (2015, 2016 a 2017), ac yntau wedi dyfarnu tair arall yn 2008, 2009 a 2012, gan dorri’r record gyda chyfanswm o chwe gêm derfynol yng ngemau Cwpan Ewrop.

Wedi derbyn MBE am ei wasanaethau i chwaraeon yn 2016, mae’n cael ei edmygu ar draws y byd, ac yn adnabyddus am ei hiwmor sych wrth ddelio â chwaraewyr.

Er hyn i gyd, fel dywed yn ei hunangofiant clodwiw Hanner Amser, cofia sut roedd ei yrfa bron ar ben cyn dechrau, wrth iddo ddioddef gydag anhwylderau bwyta ac ymgais i ladd ei hun wrth iddo geisio derbyn ei rywioldeb.

Mae ei ddewrder a’i waith ymgyrchu dros gydraddoldeb, byd cynhwysol ac iechyd meddwl wedi arwain at gael ei enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon Hoyw’r Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon Hoyw’r Degawd gan grŵp hawliau hoyw Stonewall.

Derbyniodd Ddoethuriaeth Anrhydeddus ym Mhrifysgolion Abertawe a De Cymru, a Chymrodoriaethau Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Yn 2011, daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam am ei wasanaeth i’r iaith Gymraeg.

Er ei fod bellach wedi ymddeol o rygbi proffesiynol, mae e mor brysur ag erioed.

Yn ogystal â hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ddyfarnwyr, ac fel siaradwr Cymraeg poblogaidd yn y cyfryngau, mae wedi gwireddu breuddwyd plentyn o fod yn berchen ar fferm a bridio gwartheg Henffordd.

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?

Do, dwi’n cofio cystadlu yn Eisteddfodau Cylch yn Ysgol Mynyddcerrig pan o’n i ym mlwyddyn pump a chwech. Os dwi’n cofio’n iawn, yng nghystadleuaeth y côr cymysg oedd hwnnw ond yn anffodus aethon ni ddim pellach na’r cylch. Dwi’n cofio hefyd dechrau mynd i ymarferion grŵp dawnsio gwerin, ond ges i fy nhwlu allan o’r grŵp gan yr athrawes achos oedd dwy droed chwith gyda fi!

Mewn tri gair, disgrifia ardal Sir Gaerfyrddin i bobol sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.

Cymuned. Cymreictod. Cyfeillgarwch.

Pe baet ti’n aelod o’r Urdd heddiw, pa gyfleoedd hoffet ti fod yn rhan ohonyn nhw?

’Sen ni’n aelod heddiw ac yn cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd, byddwn i wrth fy modd yn cystadlu mewn cystadleuaeth fel adrodd digri neu yn y Stand-Yp 14-25 oed. Dwi’n meddwl y byddai honno’n gystadleuaeth werth ei wylio ar lwyfan yr Adlen Ddydd Sadwrn yma.


Holi Ken Owens

Yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, cychwynnodd Kenneth James Owens ei yrfa rygbi trwy chwarae i dîm iau Athletig Caerfyrddin cyn ymuno ag Academi’r Scarlets yn 2004.

Wedi hyn a thra’n astudio ym Mhrifysgol UWIC (Met Caerdydd), buodd yn rhan o garfan rygbi’r brifysgol.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel bachwr i’r Scarlets yn 2006, ac erbyn heddiw mae e wedi chwarae dros 270 o weithiau i’w glwb.

Cafodd ei enwi’n gapten ar y Scarlets yn nhymor 2014/15, ac fe gyflawnodd y rôl am saith mlynedd yn olynol, gan dorri record Phil Bennett i Lanelli.

Yn fuan cyn ymgyrch Chwe Gwlad Cymru yn 2023, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru mai fe fyddai’r capten.

Mae wedi cynrychioli ei wlad ar sawl lefel, gan gynnwys Cymru dan 19 ac 20, cyn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf dros Gymru yn 2011, yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Namibia.

Erbyn heddiw, mae e wedi chwarae dros Gymru 91 o weithiau.

Roedd yn rhan o’r tîm enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012, 2019 a 2021, ac hefyd yn rhan o garfan y Scarlets enillodd y Guinness PRO12 yn 2017, y flwyddyn y cafodd ei enwi’n aelod o garfan y Llewod i Seland Newydd, ac eto yn 2021 i Dde Affrica.

Beth yw dy hoff atgof o’r Urdd?

Cystadlaethau rygbi, gwyliau llawn antur yn y gwersylloedd a gwneud ffrindiau gydol oes.

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?

Fe wnes i gymryd rhan yn y dawnsio gwerin. Mae cystadlu yn yr Eisteddfod, mewn unrhyw gamp, yn helpu i fagu hyder ac roedd perfformio ar lwyfan bendant yn ysgol dda i baratoi fi at chwarae rygbi o flaen torf.

Mewn tri gair, disgrifia ardal Sir Gaerfyrddin i bobol sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.

Prydferth, croesawgar, anturus

Beth, yn dy farn di, yw’r newid mwyaf am ŵyl Eisteddfod yr Urdd ers pan oeddet ti’n aelod a’r Eisteddfod heddiw?

Rwy’n credu bod prif agweddau ac ethos yr Eisteddfod yn parhau ond mae yna gyfleoedd ehangach erbyn heddiw sy’n rhoi cyfle i mwy o bobol, tu hwnt i’r cystadlaethau llwyfan traddodiadol. Mae digwyddiadau fel Gŵyl Triban a Cefn Llwyfan yn agor drysau i bobol ifanc talentog.

Pe baet ti’n aelod o’r Urdd heddiw, pa gyfleoedd hoffet ti fod yn rhan ohonyn nhw?

Byddwn i bendant yn dal i fod â diddordeb yn y gweithgareddau rygbi a chwaraeon yn gyffredinol. Ond mae yna lot mwy o gyfleoedd tramor gyda’r Urdd erbyn heddiw, fi’n credu byddai cael cyfle i gynrychioli’r Urdd ar y cae rygbi mewn twrnament rhyngwladol neu teithio i wlad bellennig i rannu gweledigaeth yr Urdd yn gyfle gwych.

Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?

Mae’n anrhydedd cael bod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin. Roeddwn i’n mwynhau’r Eisteddfod fel plentyn, ac wedi mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau gwahanol dros y blynyddoedd. Fe fydd e’n anrhydedd cael croesawu pobol o bob cwr o Gymru i Sir Gaerfyrddin a dangos i bawb pa mor ffodus ydyn ni i fyw mewn sir mor arbennig. Mae’n gyfle i ni hefyd ddangos pa mor werthfawr yw’r Gymraeg a dangos ein balchder dros yr iaith.

Beth fyddai dy brif gyngor i’r rhai sydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod wythnos yma?

Fy mhrif gyngor i’r rhai sy’n cystadlu yn yr Eisteddfod wythnos yma byddai i fwynhau. Mae’n swnio fel cliché ond os yw rygbi wedi dysgu un peth i fi, hynny yw ein bod ni’n perfformio’n well fel tîm pan ydyn ni’n mwynhau ein hunain.