Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Llŷr Titus, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffuglen gyda Pridd.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Mae Pridd yn nofel sy’n trafod blwyddyn ym mywyd y prif gymeriad sef yr Hen Ŵr wrth iddo fyw a gweithio ar ei dyddyn, mae hi hefyd yn astudiaeth o fath penodol o gymeriad ac o ffordd o fyw. Wrth i’r Hen Ŵr fynd o gwmpas ei bethau mae’r gorffennol a’r presennol yn cymysgu a daw’r ffin rhwng realiti a breuddwyd yn denau yn enwedig wrth i’r Llwynog ddod yn rhan amlycach o’i fywyd. Mae’r stori yn cael ei hadrodd gan y cerrig yn y caeau sydd wedi gweld pob math o bethau.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Mae fy nghartref i ym Mrynmawr, Llŷn – y caeau yno, a hanes fy nheulu i wedi bod yn rhan fawr o’r ysgogiad i sgrifennu Pridd. Roedd fy nghysylltiad dwfn i hefo’r hen le yn ysbrydoliaeth gyson i mi. Mae’r cerrig sy’n rhan bwysig o’r hanes wedi eu hysbrydoli gan hen garreg sydd yn Cae Tŷ Gwair acw o hyd, er enghraifft. Rhan arall o’r ysbrydoliaeth oedd siarad hefo pobol o genhedlaeth arbennig sydd bellach yn brin iawn mwya’r piti a chlywed am eu profiadau nhw, am sut oedd pethau wedi newid a theimlo y byddwn i’n hoffi cofnodi rhywbeth fel rhyw fath o deyrnged iddyn nhw. Dw i wedi bod yn lwcus i fod yn ffrindiau mawr hefo nifer ohonyn nhw, ac amryw un wedi’n gadael ni erbyn hyn yn anffodus — mae’r nofel wedi ei chyflwyno i rai o’r to hwnnw.

Oes yna neges y llyfr?

Dw i ddim o reidrwydd yn meddwl ei bod hi’n le i awdur ddeddfu am negeseuon yn eu gwaith ond mae Pridd yn trafod llawer o themâu gan gynnwys perthynas pobol hefo lle, newid mewn ffordd o fyw a’r ffaith fod y newid hwnnw’n mynd i ddigwydd waeth be wnaiff rhywun, unigedd, galar a pherthynas pobol efo natur. Mae gan yr Hen Ŵr ei farn am sawl peth ond tydi hynny ddim i ddweud fod rhaid i chi gytuno, nac anghytuno hefo fo!

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Terry Pratchett oedd yr awdur wnaeth wneud i mi feddwl am sgrifennu o ddifri am y tro cyntaf — roedd ei hiwmor, ei fyd-olwg a’i arddull o’n ysbrydoliaeth fawr. Dw i ddim yn un sy’n ailddarllen rhyw lawer ond dw i’n dal i droi at ei nofelau o. Y tro cyntaf i mi ddod yn ymwybodol o arddull bwriadol foel oedd pan wnes i ddarllen The Road gan Cormac McCarthy pan oeddwn i’n ddisgybl Lefel A ac fe gafodd y nofel honno effaith fawr arna i, mae’n siŵr fod peth o ddylanwad honno ar Pridd. Dw i’n meddwl fod pob llyfr mae rhywun yn ei ddarllen yn dylanwadu arnyn nhw, er gwell neu er gwaeth!

Gallwch ddarllen mwy am Pridd a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 23!