Ar ôl tair blynedd o baratoi a chodi arian, mae Sir Gaerfyrddin yn barod i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Lanymddyfri.

Yr wythnos nesaf, rhwng Mai 29 a Mehefin 3, bydd miloedd o bobol ar hyd a lled y wlad a thu hwnt yn tyrru yno i fwynhau bwrlwm, hwyl a chystadlu’r Eisteddfod.

Mae nifer o dalentau ac enwogion y sir yn cefnogi’r Eisteddfod fel Llywyddion y Dydd eleni.

Bydd Alex Jones yn cyfnewid soffa The One Show am y Maes ddechrau’r wythnos, wedi i’r gyflwynwraig o Rydaman gadarnhau ei rôl fel Llywydd y Dydd ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl.

Bydd y dyfarnwr rygbi Nigel Owens a phrop Cymru Wyn Jones yn ymweld â’r maes chwaraeon, a’r cyflwynwyr teledu Heledd Cynwal ac Owain Wyn Evans ynghyd â’r digrifwr Elis James yn ymuno â holl hwyl y maes.

Cyn iddyn nhw droi am Glastonbury fis Mehefin, bydd y band Adwaith ynghyd â Heledd Watkins o HMS Morris yn Llywyddion Gŵyl Triban i gloi’r ŵyl.

Ddydd Sul (Mai 28), bydd dros 900 o blant yn perfformio ar Faes yr Eisteddfod yn Chwilio’r Chwedl, sef penllanw blwyddyn o weithdai celfyddydol ar draws y sir.

Bydd gwaith celf 500 o blant hefyd yn cael ei arddangos ar hyd a lled y Maes fel rhan o’r prosiect hwn.

Fore Sul, bydd gwledd o ganu yng Nghapel y Tabernacl gan blant a phobol ifanc yr ardal yn yr Oedfa.

Elfennau newydd

Diolch i gyfraniad a llais aelodau ifanc byrddau’r Mudiad, mae’r Eisteddfod wedi cyflwyno sawl elfen newydd eleni i sicrhau Urdd i bawb ar hyd y Maes.

“Rwy’n hynod falch o ychwanegu cystadleuaeth Côr Cynradd i Ddysgwyr fel rhan o’r ŵyl eleni, a braf yw gweld bod chwe côr wedi cofrestru i gystadlu,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Bydd hyn yn rhoi cyfle i siaradwyr newydd oed cynradd brofi diwylliant Cymru ac elwa o berfformio ar lwyfan yr Eisteddfod.

“Eleni byddwn yn lansio ardal Cwiar na Nog, sef ardal LHDTC+ newydd sbon i ddathlu a dysgu mwy am y gymuned cwiar yma yng Nghymru, wedi cael ei greu gan aelodau hynaf ein mudiad.

“Bydd hwn yn ofod diogel i blant a phobol ifanc gymdeithasu, rhwydweithio, a dysgu mwy am eu hunaniaeth drwy’r iaith Gymraeg.

“Ardal newydd arall yw Nant Caredig, iwrt ac ardal dawel ar gyfer pobol niwro-wahanol neu i unrhyw un sydd angen lle hamddenol i ymlacio a chael cyfle i anadlu i ffwrdd o brysurdeb y Maes.

“Wedi ymateb arbennig yn Eisteddfod Sir Ddinbych y llynedd, mae’r Urdd yn falch i roi Llwyfan i Bawb eto eleni gyda’r tri pafiliwn – coch, gwyn a gwyrdd – yn dychwelyd i’r Maes yn Llanymddyfri.

“Bydd Gŵyl Triban hefyd yn dychwelyd i gloi wythnos yr Eisteddfod, gyda pherfformiadau gan Adwaith a Dafydd Iwan yn goron ar yr wythnos.

“Nid ar chwarae bach mae trefnu a chynnal Eisteddfod.

“Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Gaerfyrddin am yr holl gefnogaeth a chydweithio arbennig dros y blynyddoedd diwethaf, y Pwyllgor Gwaith ac i’r holl dimoedd gwirfoddol am eu hymroddiad a’u gwaith caled dros y bum mlynedd diwethaf yn codi bwrlwm ac arian er mwyn gwneud yr Eisteddfod yn bosib.

“Cofiwch fod dal cyfle i brynu tocynnau i’r Eisteddfod neu geisio am docyn incwm isel. Edrychwn ymlaen at groesawu Cymru i Lanymddyfri ac i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin wythnos nesaf.”

‘Profiad unigryw’

Dywed y Cynghorydd Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, fod “Sir Gâr gyfan yn barod i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2023 i Lanymddyfri”.

“Rydym ni, fel awdurdod lleol, yn ddiolchgar i gael cydweithio gyda’r Urdd er mwyn croesawu’r Eisteddfod i’n sir ni, ac mae wedi bod yn fraint i gefnogi’r ŵyl yn ariannol a chymdeithasol er mwyn ein plant, yr iaith Gymraeg a diwylliant ein cenedl.

“Bydd mynychu Eisteddfod yr Urdd, yn eu sir eu hunain, yn brofiad unigryw i blant a phobol ifanc Sir Gâr.”

Yn sgil cefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gall teuluoedd incwm isel hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae modd prynu tocyn i’r Maes am bris gostyngedig, neu hawlio tocynnau incwm isel o wefan yr Urdd hyd at ddydd Sul (Mai 28).

Bydd modd prynu tocyn i’r Maes wrth y fynedfa ar y dydd hefyd.

“Rwy’n falch iawn, felly, bod darpariaeth mynediad am ddim i deuluoedd ar incwm isel ar gael, a fydd yn galluogi pob teulu a phlentyn yn Sir Gâr i gael y cyfle i fynychu’r ŵyl unigryw ac arbennig hon,” meddai Darren Price wedyn.