Mae Rhys Mwyn wedi bod yn talu teyrnged i’r gantores Tina Turner, sydd wedi marw’n 83 oed, gan ddatgelu eu cysylltiadau teuluol.

Cafodd yr Americanes, Anna Mae Bullock, ei geni yn 1939 a’i magu mewn cymuned wledig yn Tennessee yr Unol Daleithiau, gan ddod yn un o sêr mwya’r byd cerddoriaeth dros gyfnod o ddegawdau.

Roedd ei thad yn oruchwyliwr fferm, a gadawodd ei mam y teulu pan oedd hi’n unarddeg oed.

Symudodd hi i St Louis i fyw gyda’i mam yn ei harddegau.

Dechreuodd ei gyrfa yn y 1950au, yn ystod blynyddoedd cynnar roc a rôl, a daeth yn seren deledu yn sgil ei fideos cerddorol ar ôl cael ei darganfod gan Ike Turner pan oedd hi’n 17 oed.

Fe wnaeth eu band recordio cyn iddi fabwysiadu’r enw Tina Turner, a phriododd y ddau ym Mecsico yn ddiweddarach.

Cydweithiodd hi â The Who a Phil Spector yn y 1960au a’r 1970au, gan ymddangos ar gloriau cylchgronau cerddoriaeth.

Adfywiad

Enillodd y ‘Frenhines Roc a Rôl’ wyth gwobr Grammy, gyda chwech ohonyn nhw’n dod yn ystod y 1980au ar ôl iddi wahanu ag Ike Turner yn dilyn perthynas dreisgar.

Daeth nifer o’i chaneuon mwyaf yn ystod y degawd hwnnw hefyd, gan gynnwys ‘The Best’ a ‘Private Dancer’, a pherfformiodd hi gerbron 180,000 o bobol yn Rio de Janeiro yn 1988, sy’n dal i fod yn un o’r torfeydd mwyaf ar gyfer gig yn unman yn y byd ar gyfer perfformiwr unigol.

A hithau bellach wedi ysgaru erbyn 1978, daeth adfywiad iddi ac roedd hi’n agored am eu perthynas dreisgar, a’u partneriaeth gerddorol lwyddiannus yn ystod y 1960au a’r 1970au.

Yn 1985, mentrodd hi – dros dro, o leiaf – i’r byd ffilm gan serennu gyferbyn â Mel Gibson yn y ffilm Mad Max Beyond Thunderdome, ac roedd hithau’n destun ffilm yn 1993, What’s Love Got to Do with It.

Symudodd hi i Lundain yn 1988 gyda’i phartner Erwin Bach, a recordiodd hi ‘GoldenEye’ ar gyfer ffilm James Bond yn 1995.

Ar ôl taith fyd-eang yn 2008 a 2009, ymddeolodd hi o’r byd cerddoriaeth a phriodi Erwin Bach a mynd i fyw yn y Swistir a dod yn ddinesydd yno a chefnu ar ei dinasyddiaeth Americanaidd.

Bu’n dioddef â phroblemau iechyd ers rhai blynyddoedd, ac fe wnaeth ei mab, Craig, oedd yn 59 oed ladd ei hun yn 2018, a bu farw mab arall, Ronnie, y llynedd.

Bu farw Tina Turner yn ei chartref yn y Swistir, lle’r oedd hi’n ddinesydd, yn dilyn cyfnod hir o salwch.

‘Hel achau’ Rhys Mwyn

Fe fu Rhys Mwyn yn trafod ei gysylltiadau teuluol â Tina Turner ar Radio Cymru fore heddiw yn dilyn y cyhoeddiad am ei marwolaeth neithiwr (nos Fercher, Mai 24).

“Mae’n un o’r storïau doniol yna,” meddai.

“Roedd fy nhad yn hel achau, a phan oeddwn i yn fy arddegau neu ddechrau’r Anhrefn a dweud y gwir, roedd o o hyd yn sôn, ‘Rydach chi’n perthyn i’r ferch yma o America sydd yn canu’.

“Doedd o ddim yn berson oedd yn dilyn cerddoriaeth, felly doeddan ni byth yn siŵr iawn, ‘Am bwy ti’n sôn?’

“Rydan ni’n perthyn o bell, rydan ni ar y goeden deulu.

“Mae dogfennau’r teulu gen i fan hyn, ac ro’n i eisiau trio gweld fyswn i’n gallu gweld pa Bullocks oedd yn perthyn, achos fy hen, hen daid i, Edwin Bullock, ddaru o symud o Broseley yn Swydd Amwythig i weithio yn y chwareli yn Nyffryn Nantlle.

“Felly honna ydi’r gangen, wedyn mae yna Bullocks rŵan yn agos iawn, dydyn nhw ddim yn bell i fi a Siôn Sebon, fy mrawd.

“Biti mawr, achos pan wnes i feddwl am drio cysylltu efo Tina, roedd hi’n sâl efo dementia ac wedi symud i’r Swistir, felly nywson ni fyth gysylltu, ro’n i wedi meddwl gwneud, jyst i weld fyswn i’n gallu ffeindio yn union beth oedd y cysylltiad.”