Mae disgyblion cynradd y sir wedi bod yn brysur yn dysgu am hanes eu hardal leol, ar drothwy Eisteddfod yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos nesaf.
Gan ddefnyddio pecyn adnoddau newydd gafodd ei ddatblygu gan Partneriaeth, sy’n darparu gwasanaeth gwella ysgolion yn y de-orllewin, mae’r plant wedi ymateb yn ‘syfrdannol’ i’r gweithgareddau.
Cafodd y pecyn addysgol Stori’r Sir – Sir Gâr ei greu gan Partneriaeth mewn cydweithrediad ag awduron lleol ac athrawon o’r sir, dan arweiniad Dr Hanna Hopwood.
Nod y pecyn yw dod â hanes yr ardal yn fyw i ddisgyblion wyth i ddeuddeg oed, ac ennyn ymdeimlad o falchder yn eu mysg wrth baratoi at yr Eisteddfod yn Llanymddyfri.
O darddiad enwau lleoedd fwyaf arwyddocaol yr ardal a chwedlau a hanesion lleol i fap o’r sir sy’n nodi nifer o’r prif ddigwyddiadau diwylliannol a hanesyddol, mae’r pecynnau wedi’u teilwra ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg er mwyn cyflwyno a dyfnhau gwybodaeth cymaint o ddisgyblion ag sy’n bosib.
Yn ogystal â’r pecynnau eu hunain, caiff athrawon fynediad at wefan arbennig sy’n cartrefu nifer o ddeunyddiau ychwanegol i’r dosbarth, gan gynnwys dros 150 o weithgareddau amrywiol yn ymwneud â Sir Gâr gafodd eu dylunio gan athrawon lleol.
‘Magu’r ymdeimlad o berthyn i’r tir’
“Prif ffocws yr adnodd yw cryfhau sgiliau ieithyddol y dysgwyr, a cheir ystod o weithgareddau o feysydd dysgu a phrofiad amrywiol yn y pecyn er mwyn cyflawni hynny,” meddai Lowri Davies, yr Ymgynghorydd Partneriaeth.
“Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn syfrdanol, gyda’r cysyniad, y straeon, y gweithgareddau a’r diwyg yn cael eu canmol.
“Mae cymaint wedi mynd ati yn barod i ddefnyddio’r adnoddau yn eu dosbarthiadau, i fagu’r ymdeimlad o berthyn i’r tir o dan eu traed ymhlith y dysgwyr.
“Mae’n fwriad gennym i ddatblygu’r adnodd ymhellach i gynnwys recordiadau o bobol ifanc yn darllen y darnau er mwyn cynorthwyo eraill gydag ynganiad.
“Rydyn ni hefyd wedi dechrau ar y gwaith o greu adnoddau cyffelyb ar gyfer Sir Benfro a Sir Abertawe, felly cadwch lygad allan am fwy o ddatblygiadau.”
Testunau “gwirioneddol wych”
Mae Bethan Parry, athrawes o Ysgol Llechyfedach, wedi bod yn cydweithio ar y prosiect.
“Mae’r testunau yn wirioneddol wych ac wedi’u hysgrifennu mewn ffordd ddealladwy sy’n llawn idiomau a geirfa newydd ar gyfer y disgyblion — er mwyn ehangu eu dealltwriaeth o’r Gymraeg, eu sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu, ac uwchlaw hynny oll, gwreiddio’r ymdeimlad o gynefin,” meddai.