Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Sioned Erin Hughes, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffuglen gyda Rhyngom.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Erbyn hyn, dw i’n meddwl am Rhyngom fel codi dyddiadur oddi ar lawr ystafell wely yr wyth person o fewn yr wyth stori fer, a darllen rhannau ohono. Mae’r gyfrol yn codi cwr y llen ar y pethau mwyaf bregus tu mewn i galon y cymeriadau, nes gwneud i’r darllenydd gwestiynu, ‘Ydw i i fod i ddarllen hwn?’ – dyna dw i’n gobeithio ydi’r effaith. Mae’n rhoi tamaid o syniad inni o angerdd y cymeriadau, eu hing, eu hiraeth, ac yn fwy na dim, y gobeithion sy’n eu gyrru.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Mae gymaint o’r cyngor dw i wedi’i dderbyn dros y blynyddoedd yn dweud wrtha i sgwennu be dw i’n wybod. Ond i mi, dw i’n licio troi hwnnw ar ei ben a dweud wrtha i fy hun bod angen imi wybod be dw i’n ei sgwennu. Dw i ddim isio sgwennu amdana i fy hun rownd y rîl – dw i’n gwneud digon o hynny’n barod! – dw i isio dysgu a dysgu a dysgu am fywydau pobol eraill nes fy mod i wedi ymlâdd yn llwyr. Ond i wybod be dw i’n sgwennu, dw i’n gorfod ymchwilio mwy na dw i’n sgwennu. Mae hynny’n fater o raid wrth fynd ynglŷn â themâu o bwys. Mae yna gyfrifoldeb ac mae yna ddyletswydd. Ond mae’n rhywbeth dw i’n ddewis ei wneud – mae’r dewis yn un ymwybodol iawn – gan fy mod i isio cofnodi bywydau sydd tu hwnt i fy mhrofiad fy hun. Mae’n cadw pethau’n ddifyr, yn cadw rhywun yn eangfrydig ac yn tynnu rhywun o gawl ei brofiadau ei hun.

Oes yna neges y llyfr?

Dw i’n meddwl mai prif neges y gyfrol ydi bod gan bawb ei groes ei hun i’w chario. Mae yna rai yn ddigon ffodus o gael pobol i gynnig ysgwydd ar hyd y ffordd, eraill ddim. Mae croes ambell un yn drymach na’r nesaf, ond dw i’n pwysleisio, mae gan bawb ei groes. Mae bywyd yn anodd i bawb, waeth pa mor ymddangosiadol berffaith ydi bywydau i’r bobol ar y tu allan. Ond dydi hon ddim yn gyfrol nihilistig. Mae hi’n gyfrol sy’n cydnabod y gwerth sydd i fywyd, a’r gobaith sy’n olion drwyddo hefyd.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur a darlunydd?

Llyfrau Aled Jones-Williams, yn bendant. Dw i heb eu darllen ers blynyddoedd rŵan (wedi rhoi benthyg fy hoff lyfrau i ffrind – Elis Carreg, dw i isio nhw’n ôl!), ond mae ei ddylanwad o’n frith drwy’r hyn dw i’n ei sgwennu. Sonia Edwards ac Angharad Tomos, hefyd. Dau fath o sgwennu gwahanol, ond dau fath o sgwennu sy’n fy ngadael yn fud. Ond mae yna lwyth o lyfrau unigol yng nghanol hynny, tomen o lyfrau Saesneg hefyd. Dw i’n caru hunangofiannau, straeon sydd wedi’u selio mewn realiti, sgwennu telynegol, ond ergydiol. Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig pwysleisio hefyd bod yna bethau tu hwnt i lyfrau sy’n dylanwadu’n fawr ar awdur. Mae fy ngwaith yn destament o’r ffilmiau dw i wedi’u gwylio, y caneuon dw i’n eu caru, y podlediadau sydd wedi cynnau rhywbeth tu mewn imi, ac yn bwysicach fyth, y sgyrsiau, y cyffyrddiadau, a’r sbarc dw i’n weld rhwng pobol yn eu mynd a dod bob dydd. Fanno mae’r aur mwyaf.

Gallwch ddarllen mwy am Rhyngom a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 23!