Ymhen mis, fe fydd Gwobr Ostana yn cydnabod gwaith wyth o awduron, cantorion a gwneuthurwyr ffilmiau sy’n hybu ieithoedd Celtaidd ac un o ieithoedd Affrica.
Mae’r wobr yn cael ei rhoi yn y meysydd hynny i bobol greadigol sy’n amddiffyn, meithrin a hybu’r Fasgeg, Astwrieg, Arpitaneg, Corseg a Gaeleg yr Alban, yn ogystal â Tamajeq, sef iaith Tuareg ym Mali yn Affrica.
Bydd Gwobr Arbennig i Hawad, bardd Tuareg ac artist gweledol sy’n hanu o Niger, sy’n cael ei wobrwyo am ei “ymroddiad a’i barodrwydd i hybu’r defnydd o’r iaith a’r wyddor Tamajeq”.
Mae ei waith “wedi gwneud i’w ddiwylliant atseinio y tu hwnt i’w ffiniau”.
Bydd y bardd Bernardo Atxaga o Wlad y Basg yn derbyn Gwobr Ryngwladol 2023, ac yntau wedi bod yn ysgrifennu ers hanner canrif.
Merched sy’n ennill y chwe gwobr arall, gyda’r Wobr Ieuenctid yn mynd i Blanca Fernández Quintana, awdur yn yr iaith Astwrieg, a’r Wobr Ffilm yn mynd i Julie Perreard sy’n gweithio yn yr iaith Gorseg, a’r Wobr Gerddorol yn mynd i’r Albanes Fiona Mackenzie am ei chaneuon Gaeleg.
Enillydd y Wobr Gyfieithu o ardaloedd yr Alpau ac Occitania yw Monica Longobardi, am ei “chyfraniad gwych” i hybu llenyddiaeth yn ei mamiaith yn yr Eidal.
Mae’r wobr ar gyfer Occitan yn mynd i Sarah Laurenç Zurawczak, bardd ifanc ac awdur straeon byrion.
Enillydd y wobr sy’n cael ei rhoi i leiafrifoedd ieithyddol hanesyddol yr Eidal yw Liliana Bertolo Boniface, am warchod Arpitaneg, sef iaith Cwm Aosta, Savoy yng ngorllewin y Swistir.
Caiff y wobr ei rhoi fel rhan o “ŵyl ar gyfer bioamrywiaeth ieithyddol” bob blwyddyn.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 23-25 eleni