Mae Cyngor Sir Ynys Môn heddiw (Dydd Mawrth, 23 Mai) wedi cadarnhau bod Ynys Môn yn dymuno cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2026.

Cefnogodd Aelodau’r Cyngor Sir Llawn y rhybudd o gynnig gafodd ei gyflwyno iddyn nhw gan Llinos Medi, arweinydd y Cyngor, yn unfrydol.

Yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn croesawu hyd at 95,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Dydy Eisteddfod yr Urdd ddim wedi ymweld â’r ynys ers 2004.

Mae’r Eisteddfod yn cynnwys cystadlaethau canu, adrodd, celf, cyfansoddi, dawns ac offerynnol ar gyfer plant rhwng saith a 24 oed, ac mae rhagbrofion yn cael eu cynnal ledled Cymru.

Dywed y Cynghorydd Llinos Medi y byddai cynnal y digwyddiad yn hwb anferthol i’r Gymraeg, a phobol ifanc ac economi’r ynys.

‘Dymuniad mewn egwyddor’

“Rydym ni fel Cyngor Sir Ynys Môn yn dymuno, mewn egwyddor, gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’n sir yn 2026,” meddai’r Cynghorydd Llinos Medi.

“Mae’r Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau ieuenctid Ewrop ac ni fyddai gwell lle nag Ynys Môn i lwyfannu’r digwyddiad Cymreig ar gyfer pobol ifanc Cymru.

“Hoffwn ddiolch i fy nghyd Gynghorwyr am gefnogi’r rhybudd hwn o gynnig yn unfrydol. Byddwn rŵan yn cysylltu ag Urdd Gobaith Cymru ac yn eu hysbysu o’n dymuniad i gynnal y digwyddiad yn 2026.

“Bydd nifer o blant a phobol ifanc, wrth gwrs, yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yr wythnos nesaf.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc iddynt yn Llanymddyfri.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf yr wythnos nesaf (Mai 29-Mehefin 3).

Cafodd Eisteddfod yr Urdd ei chynnal am y tro cyntaf yn 1929, a hynny yng Nghorwen.

‘Llawer iawn o frwdfrydedd’

“Mae llawer iawn o frwdfrydedd yn lleol ac mae pobol yn awyddus iawn i groesawu’r ŵyl ieuenctid unigryw hon i’r ynys,” meddai Dylan J Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.

“Mae hwn yn gyfle rhagorol i ni ddangos Ynys Môn ar ei gorau. Byddwn rŵan yn parhau i gydweithio â’r Urdd gyda’r nod o gynnal yr Eisteddfod a chroesawu pobl Cymru yma yn 2026.”

Mae Urdd Gobaith Cymru yn Sefydliad Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol sydd â dros 55,000 o aelodau rhwng wyth a 25 oed.

Ers ei sefydlu yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards, mae’r sefydliad wedi darparu cyfleoedd i blant a phobol ifanc allu mwynhau profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg gan eu galluogi nhw i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau.

Arwydd mawr 'Eisteddfod' ar y Maes

Sir Fynwy eisiau cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2026

Twm Owen, Gohebydd Democratiaeth Leol

Bydd degawd wedi mynd heibio erbyn hynny ers Eisteddfod Genedlaethol y Fenni