Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Gareth Evans-Jones, sydd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer y categori Ffuglen Greadigol gyda Cylch Cymru.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda.

Cyfrol o ddarnau o ryddiaith greadigol sy’n cynnig ymatebion i leoliadau gwahanol ar hyd arfordir Cymru a Chlawdd Offa ydi Cylchu Cymru: Llun a Llên wrth Gerdded. Yn dilyn cyfnod o grwydro o amgylch Cymru, o Fôn yn ôl i Fôn, mi wnes i lunio cyfres o 60 darn yn ymateb i 60 lle gwahanol. Mae’r darnau’n amrywiol iawn, gyda gwahanol themâu, lleisiau a thestunau’n eu lliwio; gyda rhai’n ymateb i agweddau hanesyddol, daearyddol, celfyddydol, crefyddol neu ddiwydiannol gwahanol lefydd. Ymysg y darnau, mae yna chwedl gwiyr sy’n ymateb i Ynys Llanddwyn, darn yn ymdrin â ffrae’r ‘pla ail dai’ yn Abersoch, myfyrdod ar wal ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud, ail-ddychmygu stori Amelia Earhart ym Mhorth Tywyn, cerdd gryno am berthynas ddyrys Llyfrgell Gladstone â chaethwasiaeth, personoliad o’r Rhyl, a delweddu profiadau gwrachod Llanddona.

Ynghyd â’r darnau unigol, mae nifer o ffotograffau a dynnais yn ystod y daith, ac sydd wedi cael eu dylunio’n ddengar iawn gan Olwen Fowler. 

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Yn 2018, roeddwn yn ffodus iawn i fod yn un o griw Awduron wrth eu Gwaith, Gŵyl y Gelli, sef cynllun gwych sy’n cael ei gydlynu gan Llenyddiaeth Cymru. Wrth dreulio cyfnod estynedig yng nghwmni naw sgwennwr gwirioneddol ddiddorol ac ysbrydoledig, cafwyd nifer o sgyrsiau arbennig, ac un sgwrs hynod ysgogol oedd yr un ges i efo’r llenor a’r ysgogydd creadigol, Alison Powell. Treuliodd Alison a minnau nifer o ddyddiau’n trafod hynodrwydd llên feicro fel cyfrwng a gwerth ymateb yn gryno ac yn gynnil i ddigwyddiadau, syniadau ac emosiynau. O hynny, daeth y syniad i grwydro Cymru gyfan (mater bach fyddai hynny, wrth gwrs!), ac ymateb yn greadigol i’r llefydd gwahanol. Y gwmnïaeth yn y Gelli a’r anogaeth a gefais gan Alison oedd wedi fy ysbrydoli’n gyson i wireddu’r syniad, a gosod un droed o flaen y llall. I Alison a holl aelodau criw Awduron wrth eu Gwaith, am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch, mae’r diolch i Cylchu Cymru ddatblygu.

Oes yna neges y llyfr?

Roedd crwydro Cymru’n ffordd imi ddod i werthfawrogi’r wlad dw i’n hanu ohoni a dysgu cymaint yn fwy amdani. Mae modd dysgu am Gymru drwy ddarllen llyfrau ac erthyglau, drwy wylio rhaglenni a ffilmiau, a thrwy sgwrsio ag eraill a gwrando ar gyflwyniadau, ond mae’r profiad o fynd i lefydd a phrofi mannau penodol yn bersonol yn hynod iawn, iawn. A’r gobaith ydi y gallai syniad cefndirol y gyfrol annog mwy o bobol i grwydro Cymru a chanfod y 60 lle penodol ar hyd y wlad sy’n cael effaith benodol arnyn nhw. Mae’r gyfrol hefyd yn cyfleu i ryw raddau, gobeithio, bod cymaint o amrywiaeth yng Nghymru, o ran ei phobol, ei hieithoedd, ei hanesion, a’i diwylliannau, ond cynnig blas ar yr amrywiaeth honno mae’r gyfrol mewn difri. Gobeithio, felly, y bydd y gwaith yn annog pawb sy’n ei ddarllen i fynd ati i grwydro Cymru, boed eu milltir sgwâr, eu sir, neu’r wlad gyfan, a myfyrio ar eu hymatebion i’r llefydd gwahanol.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Mae hyn yn gwestiwn anodd iawn, iawn a dweud y gwir, oherwydd dwi’n teimlo fod pob llyfr mae rhywun yn ei ddarllen yn cael dylanwad arnyn nhw. Ond y llyfr a ddeffrodd yr awydd ynof i sgwennu oedd cyfrol gynnil, gywrain Sonia Edwards, Glöynnod. Rydw i’n hoff iawn o waith Sonia, ei harddull a’i sgwennu telynegol, ac yn cyson droi at ei chyfrolau am ysbrydoliaeth; felly hefyd gyfrolau Aled Jones Williams (dw i wrth fy modd ag yn hon bu afon unwaith), a Nes Draw, Mererid Hopwood. Rydw i hefyd yn hoff iawn o lyfrau teithio a myfyrdodau Jan Morris, ac mi ges i ysbrydoliaeth benodol wrth grwydro Cymru gan The Rings of Saturn, W. G. Sebald – cyfrol eithriadol y buaswn yn annog pawb i’w darllen.

Gallwch ddarllen mwy am Cylchu Cymru a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 23!