Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Sioned Medi Evans, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Plant a Phobol Ifanc gyda Byd Bach Dy Hun.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda
Mae Byd Bach Dy Hun yn llyfr sydd yn holi’r darllenydd am ryfeddodau eu byd unigryw nhw. Beth sydd i’w weld yno? Pa lefydd arbennig sy’n bodoli, a pha fath o bobol a chreaduriaid sydd yn byw yno gyda nhw?
Ond yn ddyfnach na hynny, mae’r stori yn awgrymu ac yn talu sylw at faterion fel yr amgylchedd, pwysigrwydd caredigrwydd, hawliau plant i chwarae a chael cartref diogel, a bod yn ti dy hun yn dy fyd bach dy hun.
Mae’n llyfr lliwgar, chwareus sydd yn gwneud i blant feddwl am fydoedd bach pawb arall yn ogystal â’u byd bach nhw, gan roi’r cyfle i ymdawelu a chysidro eu hemosiynau hefyd.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?
Yr hyn wnaeth fy sbarduno a’n ysbrydoli i fwyaf oedd bod angen llyfr Cymraeg i blant oedd yn cyfeirio at yr elfennau symlaf, ond pwysicaf yn ein bywydau ni sy’n creu’r cyswllt allweddol yna rhyngom ni, y ddaear a’i phobol. Y pethau arbennig sydd yn cael eu cymryd yn ganiataol fel gweld y sêr yn y nos, sŵn yr adar yn canu tu allan, nofio yn y môr, cyfeillgarwch cyd-ddyn a chartref clyd.
Mae’n ofn mawr gen i na fydd rhai o’r pethau hanfodol, pob dydd yma yn bodoli mewn rhai blynyddoedd. Mae rhywun yn clywed ar y newyddion yn wythnosol am bryderon mawr y byd, ac mae bob un o rhain yn cael effaith ar ddyfodol y genhedlaeth nesaf. Ansawdd ein dyfroedd a’n moroedd yn gostwng ar raddfa frawychus, niferoedd adar ac anifeiliaid yn gyffredinol yn gostwng, rhyfeloedd, a chyfalafiaeth yn wyneb tlodi difrifol.
Roedd hi’n bwysig i mi felly, bwysleisio pwysigrwydd diogelu a dathlu’r hyn sydd gennym, a dysgu plant i werthfawrogi, mwynhau a pharchu’r byd o’u cwmpas.
Oes yna neges y llyfr?
Dw i’n gweld y llyfr fel y darlun o’r dyfodol delfrydol allwn ei gynnig i’n plant, a’r cenedlaethau ar eu holau nhw. Byd gyda blodau, coed a môr, anifeiliaid o bob math a phobol sydd yn barod i estyn llaw a chydweithio i gynnal a chadw’r byd o’n cwmpas. Mae’n adnodd i ddysgu’r darllenydd y pwysigrwydd i ddathlu a pharchu ein gwahaniaethau yn ogystal â’r hyn sydd yn debyg ym mywyd pawb, a bod bywyd pob un yr un mor bwysig â’r llall.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur a darlunydd?
Tra’n ysgrifennu a darlunio ar gyfer plant yn enwedig, mi fydd llinell o farddoniaeth Gerallt Lloyd Owen wastad yn fy mhen –
‘Pan feddwn dalent plentyn, i weld llais a chlywed llun’
I mi beidio ag anghofio i ryfeddu ar bob dim, ac i ddefnyddio hynny fedra i o’n nychymyg a’i ddal efo nwy law yn dynn.
Llinell arall o farddoniaeth sydd wedi dylanwadu arna i erioed, a’n sicr tra’n ysgrifennu Byd Bach Dy Hun ydi’r dyfyniad yma o ‘Preseli’ gan Waldo Williams –
‘Yn ymgodymu â daear ac wybren ac yn cario
Ac yn estyn yr haul i’r plant, o’u plyg’
Mae llyfrau llun a stori Miffy gan Dick Bruna, a chyfres Rala Rwdins gan Angharad Tomos wedi bod yn ddylanwadau mawr arna’i tra’n ysgrifennu a darlunio hefyd.