Mae un o gynghorau sir Gwent yn dweud eu bod nhw’n awyddus i weld yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i’r ardal, ac maen nhw wedi cyflwyno’u hunain i gael eu hystyried i’w chynnal.

Mae’r dathliad wythnos blynyddol o’r Gymraeg a Chymreictod fel arfer yn denu oddeutu 150,000 o ymwelwyr ac mae amcangyfrifon gan y trefnwyr y bydd yn rhoi hwb o £6m i £8m i economi’r ardal sydd yn ei chynnal, gyda busnesau lletygarwch a thwristiaeth yn elwa fwyaf.

Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal ger Pwllheli yng Ngwynedd eleni, gan ddilyn y traddodiad o gylchdroi rhwng y de a’r gogledd.

Bydd yn cael ei chynnal mewn lleoliad anhysbys yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i Wrecsam gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2025, pan fydd yn dychwelyd i’r gogledd, tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrthi’n canfasio cynghorau sy’n barod i groesawu’r digwyddiad o 2026 ymlaen.

Sir Fynwy 2026?

Mae Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, wedi cadarnhau bod yr awdurdod wedi cyflwyno’u hunain i groesawu’r digwyddiad unwaith eto, sy’n cael ei drefnu a’i reoli gan bwyllgor trefnu gwirfoddol.

Pe bai Sir Fynwy’n cael ei dewis i’w chynnal yn 2026, byddai’n nodi degawd ers i’r sir gynnal yr Eisteddfod ddiwethaf, a honno yn 2016 yn y Fenni.

“Cynhaliodd Sir Fynwy [yr Eisteddfod] ddiwethaf yn 2016,” meddai.

“Roedd yn llwyddiant ysgubol a byddai’r Cyngor yn hoffi gweld y digwyddiad yn dychwelyd.

“Rydyn ni’n obeithiol y bydd ein mynegiant o ddiddordeb yn cael ei ystyried mewn modd positif.”

Does dim manylion wedi’u cytuno ar hyn o bryd ynghylch lle yn Sir Fynwy fyddai’r Eisteddfod yn cael ei chynnal, ond dywed Paul Matthews y bydd “sawl lleoliad i’w hadolygu”, ond fod y meini prawf ar gyfer safleoedd yn “dipyn o ofyniad” tra bydd y profiad o fod wedi ei chynnal yn 2016 yn fanteisiol.

“O ystyried ein bod ni yn y cyfnod o fynegi diddordeb, mae’n rhy gynnar o lawer i fod â chynllun digwyddiad manwl yn ei le ar hyn o bryd,” meddai.

“Os ydyn ni’n llwyddiannus ac yn cael cynnal y digwyddiad, yna bydd hyn yn newid, ac rydyn ni’n ffodus o’r atgofion o drefnu i wybod sut i wneud hyn yn dda.”

Eisteddfod y Fenni 2016

Digwyddiad 2016 oedd y tro cyntaf i’r dref gynnal y digwyddiad cenedlaethol ers 1913, a chafodd ei alw gan Garry Nicholas, Llywydd yr Eisteddfod ar y pryd, yn “un o’r Eisteddfodau diweddar gorau”.

Aeth 140,297 o ymwelwyr i’r Maes yn 2016, ac fe wnaeth hyd at 20% o’r gynulleidfa mewn rhai digwyddiadau yn y Pafiliwn ofyn am gyfarpar cyfieithu, gan ddangos llwyddiant wrth ddenu ymwelwyr di-Gymraeg sydd heb fod yn gynulleidfa draddodiadol.

Cydweithiodd trefnwyr gwirfoddol â Chyngor Sir Fynwy i godi £300,000 ar gyfer y gronfa leol.

Tra bod digwyddiad yn 2016 yn cael ei ddathlu fel yr un cyntaf ers dros ganrif, cafodd Eisteddfod 1924 ei chynnal ym Mharc Pont-y-pŵl bedair blynedd ar ôl i’r parc ddod o dan berchnogaeth pobol yr ardal, gyda’r dref ar y pryd yn rhan o’r hen Sir Fynwy.

Yn 2010, cafodd yr Eisteddfod ei chynnal yng Nglyn Ebwy, oedd hefyd wedi ei chynnal yn 1958 fel rhan o Sir Fynwy, a chafodd ei chynnal yng Nghasnewydd yn 2004 a 1988, a hynny fel rhan o Gyngor Sir Gwent.