Fe fydd cyfres ddrama sy’n dilyn hanes ymchwiliad i bedair llofruddiaeth yn ardal Port Talbot yn dechrau yr wythnos hon, ac mae’r actorion wedi bod yn trafod eu “cyfrifoldeb” o sicrhau bod yr hanes yn cael ei adrodd yn gywir.

Mae Steeltown Murders, gafodd ei hysgrifennu gan Ed Whitmore a’i chyfarwyddo gan Marc Evans, wedi’i gosod yn 1973 a dechrau’r 2000au, ac mae’n ymdrin â’r ymdrechion i ddal llofrudd merched.

Mae’n tynnu ar archifau a’r hyn ddywedodd plismyn, gwyddonwyr a pherthasnau’r rhai gafodd eu lladd.

Mae’n datgelu sut y gwnaeth yr heddlu golli cyfle i ddal y llofrudd yn fuan wedi’r llofruddiaethau, a sut y gwnaeth datblygiadau DNA a thechnoleg gynnig ail gyfle iddyn nhw.

Doedd llofruddiaethau Geraldine Hughes, Pauline Floyd a Sandra Newton heb eu datrys am ddegawdau, a dywedodd tystion iddyn nhw weld y tair dynes yn mynd i mewn i fan ar y noson aethon nhw ar goll ddeufis ynghynt.

Er bod cannoedd o blismyn yn rhan o’r ymchwiliad, a miloedd o ddynion wedi cael eu holi a cheir yn destun ymchwiliadau fforensig, doedd dim modd o ddatrys y dirgelwch.

Cafodd y dirgelwch ei ddatrys ddegawdau’n ddiweddarach, gan ddefnyddio technoleg DNA am y tro cyntaf erioed nad oedd ar gael yn y 1970au.

Mae’r ddrama – sydd wedi’i chynhyrchu gan Ed Talfan, Jon Hill ac Ed Whitmore gyda Hannah Thomas, Helen Perry a Rebecca Ferguson – yn cyferbynnu dulliau ymchwilio’r heddlu dros y cyfnod dan sylw, gan fynd i’r afael â sut y gwnaeth tref Llandarcy ymdopi â’r llofruddiaeth a gofyn a fyddan nhw fyth yn cael cyfiawnder.

Bydd y ddrama’n cael ei dosbarthu’n rhyngwladol, gydag arian ychwanegol wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy law Cymru Greadigol.

Yn serennu yn y ddrama mae Paul Glenister, Scott Arthur, Steffan Rhodri, Gareth John Bale, Sharon Morgan, Keith Allen, Mathew Gravelle, Aneurin Barnard, Richard Harrington a mwy.

Y ddrama

Wedi’i hadrodd dros bedair pennod, mae’r ddrama’n seiliedig ar lofruddiaethau tair dynes yn ardal Llandarcy.

Wedi’i lleoli ym Mhort Talbot, mae’n adrodd hanes effaith y llofruddiaethau ar yr ardal a chymuned glos dros gyfnod o 30 o flynyddoedd.

Mae’r ddrama’n dilyn dwy linell amser, gyda’r gyntaf yn canolbwyntio ar y cyfnod yn syth ar ôl y llofruddiaethau yn 1973, a’r llall ar yr ymchwiliad yn 2002 pan fo DNA yn helpu i ddatrys y dirgelwch ac yn cynnig gobaith o gyfiawnder.

Yn ôl Ed Whitmore, mae’r ddrama’n rhoi’r pwyslais ar alar y teuluoedd yn hytrach na’r llofruddiaethau eu hunain.

“Yn y pen draw, byddai’r ffocws yn llai ar y llofruddiaethau eu hunain ac yn fwy ar eu heffeithiau trasig wedi’r digwyddiad,” meddai.

“Y teuluoedd sy’n galaru’n bwrw ymlaen yn gadarn heb gyfiawnder, y rhai dan amheuaeth y mae eu bywydau a’u priodasau yn fallus gan amheuaeth, y ditectifs gafodd y dasg o ddal y llofrudd yn treulio gweddill eu gyrfaoedd yng nghysgod methiant.

“I’r dramodydd, roedd y cyfle i adrodd yn sensitif a pharchus am fywydau’r cymeriadau hyn yn plethu â’i gilydd yn rhodd.

“Ac fel y mae’r naratif yn cydbwyso dwy linell amser, ces i fy nghyffwrdd a’m hysgogi gan y cydbwysedd thematig cynhenid, bron, sydd wrth galon y darn.

“Ydy, yn ei hanfod mae hi’n stori am golled, difaru, malais mileinig a chreulondeb ffawd – ond mae hefyd yn gân o fawl i ddewrder, cadernid, cynnydd gwyddonol a grym gwaredol cariad a theulu.”

‘Newid awyrgylch ardal’

Dywed Steffan Rhodri ei fod yn hanu o ardal dafliad carreg o’r ardal lle digwyddodd y llofruddiaethau.

“Ro’n i ychydig yn rhy ifanc i’w gofio fe go iawn, ond roedd fy ysgol ryw filltir o’r coed lle digwyddodd dwy o’r llofruddiaethau,” meddai.

“Roedd gyda fi synnwyr o oedolion yn siarad amdano fe, roedd e’n rywbeth ro’n i’n ymwybodol ohono fe.

“Dw i’n sicr yn meddwl bod y troseddau erchyll hyn wedi newid awyrgylch yr ardal yn llwyr.

“Am gyfnod, fe achosodd e lawer o ofn, ond yn y tymor hir hefyd yn nhermau faint o ryddid oedd gan bobol ifanc.

“Ar unwaith wrth i fi ddarllen y sgript, fe welais i’r parch.

“Dw i’n credu, os ydych chi am fod yn gwneud straeon fel y rhain, mae’n rhaid cael cydweithrediad a pharch y bobol sydd ynghlwm.”

“Dw i wir yn edrych ymlaen at weld cyfnod y 1970au yn ei gyfanrwydd oherwydd mae cywirdeb ein golygfeydd yn 2002 heb ei fai.

“O weithio oddi mewn iddo fe, mae popeth yn teimlo’n fanwl gywir yn nhermau dyluniad, props a gwisgoedd.

“Dw i’n credu bod y sgript yn awgrymu hynny hefyd, mae’r sgript yn hynod gywir a manwl.

“Does dim byd yn gryno nac yn cael ei amcangyfrif, mae’r ymchwil yno i gael y manylder sydd ei angen, ac mae hynny’n teimlo’n bwysig iawn i’w gyfleu.

“Byddwn i’n dweud ei bod hi’n stori bwysig i’w hadrodd yn nhermau dangos parch hirdymor i ddioddefwyr troseddau.

“Ac yn wahanol i rai straeon, mae’n dangos parch i’r dioddefwyr hynny ac yn eu hanrhydeddu nhw.

“Ond mae hefyd yn gwneud rhywbeth sydd ddim bob amser yn ffasiynol, sef anrhydeddu plismona a datrys troseddau hen-ffasiwn trwy fod yn diwydrwydd ac agoredrwydd.

“Dw i’n credu bod hynny’n bwysig i’w ddangos.”

Cwblhau’r stori

Yn ôl Gareth John Bale, sy’n chwarae ditectif sy’n ewythr i’r actor ei hun, mae’r ddrama’n bwysig er mwyn cwblhau’r stori a chynnig diweddglo i bobol.

“Mae hwn yn achos mawr mae pobol yn ei gofio yn y rhan arbennig hon o dde Cymru,” meddai.

“Pan dw i wedi siarad â phobol wrth wneud fy ymchwil, mae llawer o bobol yn gofyn, ‘Beth ddigwyddodd yno? Sut wnaeth hynny orffen?;

“Dw i’n credu y bydd yn dod â rhywfaint o ddiweddglo ac yn atgoffa pobol pa mor fawr oedd yr achos hwn a pha mor bwysig yw DNA a thechnoleg newydd.

“Dw i’n dod o Bontardawe yng Nghwm Tawe, felly digwyddodd hyn ddim yn bell o le ges i fy magu.

“Fe wnes i lawer o ymchwil am yr ardal, gan siarad â phobol yno ynghylch sut fyddai hyn wedi effeithio ar eu bywydau a’r effaith gafodd e ar y gymuned a’r gymdeithas.

“Ac fe ges i’r cyfle i siarad â Geraint [ei ewythr], a gofyn ambell gwestiwn iddo fe, ac fe gyfeiriodd fi at rai erthyglau i’w darllen ac ati.

“Mae’r stori sy’n cael ei hadrodd yn Steeltown Murders yn rhan bwysig o hanes de Cymru a hanes plismona, wedi’i drafod mewn ffordd ddiddorol a sensitif iawn.”

  • Bydd Steeltown Murders yn dechrau nos Lun, Mai 15 am 9 o’r gloch, a bydd pob pennod ar gael yn fuan wedyn ar BBC iPlayer.