Mae dathliad blynyddol y Deyrnas Unedig o ddiwylliant Latfia yn dod i Gymru am y tro cyntaf erioed y penwythnos hwn.

Bydd y seithfed dathliad o’i fath yn cael ei gynnal yn Abertawe, ac mae wedi denu cefnogaeth gan y Weinyddiaeth Dramor a Llysgenhadaeth Latfia yn y Deyrnas Unedig.

Bydd gorymdaith drwy’r ddinas, siaradwyr gwadd, corau, grwpiau dawns a grwpiau diwylliannol eraill i gyd yn cymryd rhan yn y diwrnod.

Bydd cyngerdd awyr agored yn yr amgueddfa, gyda bwyd a chrefftau traddodiadol ar gael mewn ffair arbennig.

Yn ogystal, fe fydd cyfres o berfformiadau traddodiadol ac arddangosfa yn Volcano Theatre.