Mae mudiad Cymru Republic wedi ysgrifennu at Banelau Heddlu a Throsedd yn galw am sicrwydd fod protestiadau heddychlon yn dderbyniol.
Daw hyn ar ôl i Heddlu Llundain arestio pobol am brotestio yn ystod y seremoni i goroni Charles yn Frenin Lloegr y penwythnos diwethaf.
Mae’r ymgyrchwyr hefyd wedi gofyn am eu barn ynghylch y ffaith fod pobol wedi cael eu harestio wrth iddyn nhw brotestio yn erbyn y dathliadau.
‘Rhoi llais i’r cyhoedd’
“Un o rolau Comisiynydd ydy rhoi llais i’r cyhoedd o ran plismona,” meddai Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd.
“Mae’r tawelwch gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ynghylch yr arestiadau anghyfreithlon yn Llundain ar ddiwrnod y coroni’n fyddarol.
“Rydyn ni’r cyhoedd yng Nghymru’n disgwyl i’n Comisiynwyr Heddlu a Throsedd gynnig sicrwydd i ni ein bod ni’n rhydd i brotestio yng Nghymru heb y bygythiad o gael ein carcharu drosom ni.
“Gobeithiwn y medran nhw gynnig y sicrwydd hwnnw.”
Yn ôl Ben Gwalchmai, sy’n aelod o Cymru Republic, mae heddluoedd yng Nghymru “wedi cael eu llusgo i ganol llanast sydd wedi’i greu gan San Steffan”.
“Does dim amheuaeth o gwbl fod rhaid datganoli plismona a chyfiawnder yn gyflym ac yn llawn i Lywodraeth Cymru fel y gall ein heddluoedd fod yn fwy atebol ac yn adlewyrchu’n well y Gymru gyfoes maen nhw’n gweithio drosti,” meddai.
Effaith “anuniongyrchol” ar Gymru
Yn ôl Bethan Sayed o’r mudiad, mae’r hyn ddigwyddodd yn Llundain wedi cael effaith “anuniongyrchol” ar Gymru.
“Roedden ni eisiau ysgrifennu at yr heddlu yng Nghymru i fynegi ein pryderon dwys am weithredoedd Heddlu Llundain wrth arestio ymgyrchwyr o’r mudiad Republic ar ddiwrnod y coroni, ar y seiliau mwyaf tila, ac maen nhw wedi cyhoeddi datganiad yn ’difaru’ ynghylch y rheiny gafodd eu harestio,” meddai.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi efallai nad yw’r hyn ddigwyddodd yn Llundain yn uniongyrchol berthnasol i heddluoedd Cymru, y Comisiynwyr na’r panelau, ond yn anuniongyrchol mae’r camau gafodd eu gwneud yn [berthnasol].
“Fel ymgyrchwyr ac actifyddion yng Nghymru sydd wedi ac a fyddai’n protestio yn erbyn ymweliadau â Chymru gan y teulu brenhinol, rydym yn ceisio sicrwydd gan blismona gweithredol yng Nghymru y byddai gan y cyhoedd yr hawl i brotestio, ac y byddai’r Comisiynwyr sy’n ddolen gyswllt rhwng y cyhoedd a’r heddlu’n sicrhau bod Prif Gwnstabliaid yn hwyluso protestiadau heddychlon.”