Mae dynes gafodd ei bwlio yn blentyn am siarad ei mamiaith bellach yn brwydro i achub yr iaith honno.

Daw Katrina Esau o Northern Cape yn Ne Affrica, ac mae hi bellach yn 90 oed ac yn siarad Afrikaans fel iaith gyntaf.

Rhoddodd hi’r gorau i siarad N|uu yn blentyn, am fod pobol eraill yn dweud wrth ei bod hi’n iaith “hyll”.

Helwyr oedd yn siarad yr iaith yn bennaf, a hynny yn ne cyfandir Affrica cyn i rannau helaeth gael eu gwladychu gan Ewropeaid.

Mae’r iaith honno bron iawn â chael ei dileu erbyn hyn o ganlyniad i effeithiau apartheid a gwladychu, ac mae degau yn rhagor eisoes wedi marw.

“Roedden ni wedi dechrau cywilyddio pan oedden ni’n ferched ifainc, ac fe wnaethon ni roi’r gorau i siarad yr iaith,” meddai wrth Reuters am ei mamiaith.

Ond flynyddoedd yn ddiweddarach, dechreuodd hi ddeall pwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol a lleiafrifedig, a sefydlodd hi ysgol yn ei thref gartref, Upington, er mwyn ceisio trosglwyddo’r iaith i’r genhedlaeth nesaf.

Cadw a chofnodi’r iaith

“Yn ystod gwladychu ac apartheid, doedd dim hawl gan Ouma Katrina a grwpiau eraill siarad eu hieithoedd, roedd eu hieithoedd yn cael eu gwawdio a dyna sut wnaethon ni gyrraedd y fan lle mae gennym ni gyn lleied o siaradwyr,” meddai Lorato Mokwena o Brifysgol Western Cape yn Ne Affrica.

“Mae’n bwysig tra bod Ouma Katrina o gwmpas ein bod ni’n gwneud ein gorau i gadw’r iaith a’i chofnodi.”

Dechreuodd Katrina Esau ddysgu’r iaith i blant lleol tua 2005, gan agor ysgol gyda’i hwyres, yr ymgyrchydd iaith Claudia Snyman.

Ond cafodd yr ysgol ei difrodi’n sylweddol yn ystod Covid-19, ac mae hi bellach wedi cau.

“Dw i’n poeni’n fawr,” meddai Claudia Snyman.

“Dydy’r iaith ddim lle mae hi i fod eto.

“Pe bai Ouma yn marw, yna bydd popeth yn marw.

“Fe wna i unrhyw beth o fewn fy ngallu i’w helpu hi i atal yr iaith hon rhag marw.”

Ei gobaith bellach yw agor ysgol arall yn y dyfodol fel nad yw ei mam-gu yn teimlo’n unig.

“Dw i’n gweld eisiau siarad â rhywun,” meddai Katrina Esau.

“Dydy e ddim yn teimlo’n dda.

“Rydych chi’n siarad, yn cerdded, wyddoch chi… Rydych chi’n gweld eisiau rhywun all eistedd gyda chi a siarad N|uu gyda chi.”